Mae adroddiad newydd yn ystyried agweddau pobl at newid yn yr hinsawdd a sut mae hyn yn arwain at gamau gweithredu
30 Mehefin 2022
Mae adroddiad newydd wedi edrych yn fanwl ar agweddau'r cyhoedd yn y DU at newid yn yr hinsawdd - a sut y gallai hyn droi'n gamau gweithredu.
Mae’r adroddiad ‘Byw gyda Sero Net / Net Zero Living’, dan arweiniad y Ganolfan Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac Ipsos, yn cael ei lansio heddiw mewn gweminar cyhoeddus.
Holodd yr ymchwilwyr farn 5,665 o bobl ledled y DU ym mis Awst 2021 gan ganfod cefnogaeth eang ar gyfer polisïau a fyddai’n arwain at newidiadau sylfaenol o ran bwyd, teithio, gwresogi a’r defnydd o nwyddau.
Fodd bynnag, canfuwyd bod y cymorth hwn yn wan a bod y cymorth hwn wedi gostwng yn sylweddol pan esboniwyd y goblygiadau posibl o ran ffordd o fyw a chostau. Pan amlygwyd manteision polisïau sero net, megis gwell ansawdd aer, creu swyddi neu wella iechyd, canfuwyd bod y cymorth yn cynyddu.
Dyma a ddywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr CAST, a arweiniodd yr ymchwil: “Mae ein hadroddiad yn dangos bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau sero net, ond bod y cymorth hwn yn fregus a’i fod wedi’i ddylanwadu gan y ffordd y mae’r polisïau hyn yn effeithio ar unigolion yn bersonol ac a ydyn nhw’n eu gweld yn rhai teg.
“Mae gwir angen ar lunwyr polisïau ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch y trawsnewidiadau cymdeithasol sydd eu hangen i gyrraedd sero net a sicrhau bod polisïau’n fforddiadwy ac yn deg.”
Mae'r adroddiad yn amlinellu ymchwil flaenorol CAST a ganfu fod pryder am newidiadau yn yr hinsawdd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed ym mis Tachwedd y llynedd pan gynhaliodd y DU uwchgynhadledd COP26 ar yr hinsawdd yn Glasgow.
Canfu’r ymchwil ddiweddaraf hon fod polisïau yn gyffredinol yn cael mwy o gefnogaeth os ydyn nhw’n cael eu hystyried yn rhai teg a’u bod yn ymgorffori’r egwyddor mai’r “llygrwr sy’n talu”, er enghraifft gorfod talu rhagor am hedfan yn aml.
Mewn is-set o’r holl sampl (2,830 o ymatebwyr), gwelwyd bod cefnogaeth ar y cyfan ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth o ran opsiynau llysieuol neu fegan drwy ddewisiadau cyhoeddus o ran darparu bwyd (56%), a bod mesurau mwy gorfodol, megis trethi ar gig coch a chynnyrch llaeth, yn cael llai o gefnogaeth (47%).
Yn yr un modd, roedd y cymorth yn uwch ar gyfer cymorthdaliadau cerbydau trydan (62%) na chyfyngu ar deithio mewn car drwy greu cymdogaethau isel eu traffig (53%). Byddai'r ddau bolisi yn lleihau allyriadau carbon oherwydd trafnidiaeth ac yn lleihau llygredd aer.
Roedd y cyhoedd yn fwy argyhoeddedig gan ddadleuon ynghylch mwy o swyddi gwyrdd na manteision amgylcheddol y polisïau hyn. Er enghraifft, roedd saith o bob 10 (69%) wedi’u hargyhoeddi gan y ddadl y byddai cynyddu opsiynau llysieuol a fegan yn creu swyddi yn y sector bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion.
Dywedodd yr awduron fod natur fregus cefnogaeth y cyhoedd yn golygu bod yn rhaid i lunwyr polisïau ddeall yn well pa bryderon sydd gan y cyhoedd ynghylch goblygiadau polisïau sero net er mwyn mynd i’r afael â’r rhain a bod yn fwy effeithiol wrth roi gwybod am y manteision.
Mae'r adroddiad yn ceisio helpu llunwyr polisïau ar y lefel genedlaethol a lleol, yn ogystal â byd busnes, i sicrhau allyriadau sero net mewn ffordd deg ac effeithiol.
The public was more convinced by arguments around increased green jobs than the environmental benefits of these policies. For example, seven in 10 (69%) were convinced by the argument that increasing vegetarian and vegan options would create jobs in the plant-based food sector.
The authors said the fragility of public support meant policymakers needed to better understand what concerns the public have around the implications of net zero policies in order to address these and be more effective at communicating the benefits.
The report seeks to help policymakers, at both national and local levels, as well as business, navigate a route to achieve net zero emissions fairly and effectively.