Clwstwr yn dathlu llwyddiant pobl greadigol yn ne Cymru
30 Mehefin 2022
Mae rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd i hybu arloesedd yn y diwydiannau sgrîn yn dathlu gwaith mwy na 100 o brosiectau sydd wedi elwa o’r cyllid hwn.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Clwstwr yn rhaglen ymchwil a datblygu (Y&D) sydd wedi cefnogi gweithwyr llawrydd, busnesau bach a sefydliadau mwy yn Ne Cymru i archwilio ffyrdd newydd o weithio a threialu gwaith, cynhyrchion a gwasanaethau newydd.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol; caiff ei hariannu gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a’i chyflwyno gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar ran Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Trwy Clwstwr, sydd hefyd yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gymru Greadigol, roedd pobl sy'n gweithio yn y sectorau sgrîn a newyddion yn gallu gwneud cais am y cyfle i ddatblygu syniadau a allai arloesi eu sefydliadau eu hunain yn ogystal â'r diwydiant ehangach.
Diolch i £3m o gyllid uniongyrchol, mae amrywiaeth o brosiectau ledled y sector sgrîn a newyddion wedi cael eu meithrin a'u datblygu. Mae dros 1,000 o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt iddi wedi’u dwyn ynghyd drwy rwydwaith Clwstwr gydag arbenigwyr o'r byd academaidd yn helpu i ysgogi arloesedd ym myd creadigol ffyniannus yr ardal.
Mae'r rhaglen hefyd wedi helpu o ran swyddi ar adeg pan mae'r pandemig wedi rhoi pwysau ar y diwydiant cyfan. Hyd yn hyn, mae 170 o weithwyr llawrydd wedi cael eu cyflogi ar brosiectau Clwstwr, gyda chwmnïau newydd yn cael eu cofrestru yng Nghymru o ganlyniad i'r cymorth cychwynnol a gawsant.
Mae ymchwil academaidd wedi rhoi dealltwriaeth o ehangder y diwydiant yng Nghaerdydd a'r ardal gyfagos — sy'n dangos mai'r rhanbarth bellach yw'r trydydd canolfan fwyaf yn y DU, dim ond y tu ôl i Lundain a Manceinion.
Bydd arddangosfa gyhoeddus o'r prosiectau sy'n gysylltiedig â Clwstwr yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Bydd ClwstwrVerse yn cynnwys profiadau, arddangosiadau, cyflwyniadau a sesiynau panel, gydag ystod eang o randdeiliaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Justin Lewis, Athro-Gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, sy’n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Wrth i ni agosáu at flwyddyn olaf rhaglen Clwstwr, dyw hi ddim ond yn iawn ein bod yn cymryd eiliad i ddathlu llwyddiannau'r rhai sy'n gweithio yn y sector sgrîn yn Ne Cymru.
Mae'r ardal yn denu un o bob wyth o holl swyddi newydd y DU ym maes ffilm a theledu, gan gynhyrchu llwyddiannau byd-eang ar gynyrchiadau gan gynnwys Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse.
Y llynedd, gan adeiladu ar lwyddiant Clwstwr, enillodd consortiwm o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gais gwerth £50m ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae 23 partner ‘media.cymru’ yn ymwneud â meysydd megis addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu rhaglenni ac arweinyddiaeth leol, a’r bwriad yw sbarduno twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol ac ychwanegu £236 at y Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) erbyn 2026.
Dywedodd yr Athro Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr: “Mae wedi bod yn anhygoel gweld y syniadau a'r cyfleoedd ysbrydoledig sydd wedi dod o bob un o'n prosiectau a ariannwyd drwy Clwstwr. Mae buddsoddi mewn arloesedd yn allweddol i ddiwydiant creadigol ffyniannus a bydd yn hanfodol wrth i ni adeiladu ar gynnydd y blynyddoedd diwethaf ac wrth i ni gychwyn rhaglen media.cymru.”
Defnyddiodd Shirish Kulkarni, newyddiadurwr â 25 mlynedd o brofiad, gyllid gan Clwstwr i edrych ar ffyrdd posibl o wneud newyddion yn fwy cynhwysol ac atyniadol i gynulleidfaoedd. Mae ei ymchwil, sydd wedi datblygu fframwaith o’r enw, “Saith bloc adeiladu newyddiaduraeth fyfyriol”, wedi bod yn ennill ei blwyf yn rhyngwladol ac wedi arwain at nifer o brosiectau dilynol proffil uchel.
Mae Shirish wedi rhannu ei ddull gydag ystafelloedd newyddion ac mewn cynadleddau ar draws y byd. Mae hefyd wedi’i benodi’n aelod o banel arbenigol Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfathrebu a darlledu yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt i weithio ar ymgorffori ffurfiau newydd o adrodd straeon mewn ystod eang o leoliadau.
Dywedodd Shirish: “Mae'r diwydiant newyddiaduraeth yn wynebu nifer o heriau dirfodol cyd-gysylltiedig sydd angen ymatebion radical. Mae ein hymchwil ar adrodd straeon yn darparu tystiolaeth glir y gall newid y meddylfryd newyddiadurol i ganolbwyntio'n gliriach ar anghenion gwybodaeth dinasyddion gael effaith ddramatig.
“Gwnaeth cyllid Clwstwr y gwaith hwn yn bosibl ac mae wedi newid cwrs fy ngyrfa. Yn bwysicach fyth, mae wedi helpu i newid sut mae ystafelloedd newyddion ar draws y byd yn meddwl am gyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, a sut y gallent ddarparu gwybodaeth i helpu pobl a chymunedau i ymgysylltu’n well â’r problemau a wynebir gan gymdeithas.”
Defnyddiodd cwmni ôl-gynhyrchu Gorilla arian Clwstwr i greu pecyn cymorth golygu o bell — gan ganiatáu i raglenni a ffilmiau gael eu golygu unrhyw le.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Rich Moss: “Mae Cymru yn aml yn lleoliad saethu ar gyfer cynyrchiadau, ond nid yw’r elfennau ôl-gynhyrchu sy'n dilyn y ffilmio yn tueddu i aros yma. Rydym ni am gadw cymaint o'r broses gynhyrchu â phosib yng Nghymru, felly gwnaethon gyflwyno cais i Clwstwr gyda syniad i roi hwb i'n cynnig.
“Ar ddechrau’r cyfnod clo, fe wnaeth yr angen sydyn i bobl weithio gartref wneud ein prosiect yn hynod berthnasol. Llwyddodd y pecyn cymorth i hwyluso swyddi a fyddai fel arall wedi'u canslo neu'n amhosibl eu gwneud. O'r man cychwyn hwn, rydym am i'n pecyn cymorth fod yn fwy ac yn well wrth i dechnoleg ddatblygu.”