Mae graddedigion Caerdydd ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy yn y DU
6 Gorffennaf 2022
Mae graddedigion o Brifysgol Caerdydd ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy yn y DU, yn ôlarolwg Hynt Graddedigion 2019/20.
Mae’r arolwg, a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), yn dangos bod 84 y cant o raddedigion Caerdydd a oedd yn gweithio yn y DU mewn cyflogaeth hynod o fedrus – dyma’r safle cyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur hwn a’r 18fed (o 130) yn y sector.
Roedd 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n gwneud rhagor o astudiaethau, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill megis teithio. Graddedigion Caerdydd hefyd sydd â'r gyfradd isaf o ddiweithdra o blith unrhyw Brifysgol yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: “Rydyn ni’n ymfalchïo mewn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer byd gwaith.
“Drwy gynllunio a chyflwyno ein cwricwlwm, ein lleoliadau, ein cysylltiadau rhagorol â chyflogwyr a chymorth i fenter ac entrepreneuriaeth, rydyn ni’n gweithio’n galed i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr ar gyfer pa lwybr bynnag y maen nhw’n ei ddewis ar ôl iddyn nhw raddio.”
Arolwg Hynt Graddedigion yw’r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU. Gwahoddir mwy na 750,000 o raddedigion i gymryd rhan bob blwyddyn.
Mae'n rhoi cipolwg ar y swyddi y mae graddedigion yn mynd ymlaen i'w cymryd ar ôl y brifysgol ac yn un o'r mesurau a all ddangos a yw eu gradd wedi eu helpu i sicrhau cyflogaeth hynod o fedrus.
Mae'r cwestiynau'n ymwneud â chyflogaeth, astudiaethau pellach, rhagolygon graddedigion a lles. Gofynnir i raddedigion beth roedden nhw’n ei wneud mewn wythnos benodol, a elwir yn wythnos y cyfrifiad, 15 mis ar ôl iddyn nhw orffen eu cwrs.
Yn ddiweddar, roedd yBrifysgol hefyd ar y brig yng Nghymru ar gyfer metrigau Hynt Graddedigion – rhagolygon (llwyddiant cyflogadwyedd neu astudiaethau pellach graddedigion sy’n cwblhau eu gradd gyntaf) a Hynt Graddedigion – ar y trywydd iawn (cyfran y graddedigion sy’n cytuno bod eu gweithgarwch ar y trywydd iawn yn unol â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol) yn y Complete University Guide 2023, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.
Ffynonellau: Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mis Gorffennaf 2022
Defnyddiodd y Complete University Guide a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022 – ganlyniadau arolwg Hynt Graddedigion 2018/19Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth