Cyn-fyfyrwraig o Gaerdydd yn tyngu llw fel Cwnsler y Frenhines
29 Mehefin 2022
Mae cyn-fyfyrwraig o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi tyngu llw i fod yn Gwnsler y Frenhines (QC) newydd yn 2022.
Tyngodd Nneka Akudolu lw i fod yn QC ym mis Mawrth eleni, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Bargyfreithiwr neu gyfreithiwr ar lefel uwch yw QC, ac ystyrir eu bod yn arbenigwyr yn eu maes, gan arwain ar achosion cymhleth sy'n galw am lawer o brofiad ac arbenigedd.
Graddiodd Nneka o raglen y Gyfraith a Gwleidyddiaeth (LLB) yn 2001 ac yna Gwrs Galwedigaethol y Bar (BVC) yn 2002 ond dechreuodd ei thaith gyfreithiol gyda chwrs Mynediad at Astudiaethau Cyfreithiol yng Ngholeg Tower Hamlets, Llundain. Roedd y cwrs, a gynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr oedd wedi bod i ffwrdd o'r byd addysg am gyfnod, yn berffaith i Nneka, oedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau Safon Uwch.
Yn dilyn y cwrs Mynediad, dewisodd Nneka Brifysgol Caerdydd am fod y bobl y cyfarfu â nhw yno’n gyfeillgar a bod costau byw gryn dipyn yn is nag yn ei thref enedigol. Pan oedd hanner ffordd drwy ei chwrs, ganwyd merch i Nneka ond parhaodd gyda'i hastudiaethau, gan sylweddoli bod dilyn gyrfa wrth y Bar yn opsiwn realistig iddi hi. Yn dilyn cwblhau'r BVC, sicrhaodd Nneka dymor prawf yn 5 King’s Bench Walk ac mae wedi bod yn ymarfer fel Bargyfreithiwr trosedd ers hynny.
Wrth esbonio'r broses o ddod yn QC, dywedodd Nneka, “Mae'r broses ymgeisio yn cymryd tua blwyddyn. Mae'r gystadleuaeth yn agor ym mis Mawrth ac mae gan ymgeiswyr tua phum wythnos i gwblhau ffurflen gais gynhwysfawr iawn. Ar y ffurflen, rydych chi’n enwi 12 achos pwysig rydych chi wedi ymwneud â nhw o fewn y tair blynedd diwethaf a rhaid i chi enwi hyd at 36 o ganolwyr, sy’n cynnwys Barnwyr, cyd-fargyfreithwyr, a chyfreithwyr sydd wedi eich cyfarwyddo.”
Dewisodd Nneka ddechrau ei chais yn gynnar, gan gymryd amser i ddrafftio gwybodaeth a fyddai'n cael ei chynnwys maes o law ar y ffurflen, o fis Rhagfyr y flwyddyn flaenorol.
"Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael eich gwahodd i gyfweliad, caiff y rhain eu cynnal ym mis Medi/Hydref, a chaiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu drwy ebost ym mis Rhagfyr - felly mae'n ebost sy'n penderfynu sut Nadolig y byddwch yn ei gael!"
Fel QC yn arbenigo mewn cyfraith trosedd, bydd Nneka fel arfer yn erlyn ac yn amddiffyn yr achosion mwyaf difrifol i gael eu trin yn llysoedd y Goron ac Apeliadau. Mae Nneka yn un o saith QC benywaidd du yn unig yn y DU.
Dywedodd, "Mae dod yn QC yn gyflawniad enfawr ynddo'i hun. Roeddwn i'n deall yn iawn y byddai fy mhenodiad yn bwysig yn nhermau gwelededd gan fod diffyg amrywiaeth dybryd yn enwedig o ran menywod du mewn rolau arweiniol wrth y Bar. Byddwn i'n gobeithio y bydd eraill o gefndiroedd amrywiol neu sydd wedi wynebu rhwystrau penodol yn gweld fy llwyddiant ac yn cydnabod nid yn unig bod y Bar yn broffesiwn cynhwysol ond yn un lle gallan nhw ragori."
"Hoffwn fwynhau rai blynyddoedd fel QC ac yna efallai ystyried ymgeisio i ddod yn Farnwr maes o law. Rwyf i eisoes wedi siarad am y diffyg amrywiaeth mewn rolau uwch ac arweiniol, ac rwy'n teimlo ei fod yn gyfrifoldeb arnaf i wneud rhywbeth am y peth pan fydd yr amser yn iawn. Dim ond pan fydd y rheini o'n plith sydd â chymwysterau addas yn gwneud cais am swyddi Barnwrol y bydd gan eraill o gefndiroedd anhraddodiadol yr hyder i wneud yr un peth.”
Mae Nneka wedi'i lleoli yn 2 Hare Court, Llundain ac yn gweithio'n rheolaidd gyda diffynyddion a thystion bregus a'r rhai sydd wedi'u cyhuddo o honiadau hanesyddol o natur rywiol. Mae hi hefyd yn amddiffyn ac yn erlyn unigolion sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio, masnachu cyffuriau ar raddfa fawr a throseddau arfau tanio. Ar wahân i Lys y Goron, mae gan Nneka brofiad helaeth mewn Cyfraith Filwrol ac mae wedi cynrychioli aelodau o'r lluoedd arfog a'u dibynyddion mewn achosion Llys Milwrol. Mae ei gwaith milwrol yn cwmpasu amrywiaeth eang o droseddau gan gynnwys trais difrifol a threisio.