Digwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth: Fferyllwyr eang eu medrau
29 Mehefin 2022
Ydych chi'n cyflogi neu'n goruchwylio fferyllwyr newydd gymhwyso yng Nghymru?
Hoffech chi ddysgu rhagor am sut i sicrhau bod fferyllwyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant amlsector yn defnyddio eu sgiliau i eithaf eu gallu?
Os felly, mae CUREMeDE ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a fydd yn archwilio safbwyntiau a phrofiadau cyflogwyr a goruchwylwyr o weithio gyda fferyllwyr sydd wedi’u hyfforddi â sgiliau aml-sector.
Rydym yn awyddus i glywed barn unigolion obob un o sectorau’r byd fferylliaeth.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr i drafod mater sy’n hynod berthnasol i dirwedd addysg fferyllwyr ac i’w hyfforddiant cychwynnol, sydd y naill fel y llall yn newid. Bydd trafodaethau o’r fath yn llywio’r gwaith o ddatblygu deunyddiau a fydd ar gael yn eang i gyflogwyr ledled Cymru.
Bydd y digwyddiadau yn rhai drwy gyfrwng y Saesneg a byddant yn cael eu cynnal yn rhithwir dros Microsoft Teams ar y dyddiadau canlynol:
Cydweithwyr Cymunedol a Meddygon Teulu | Cydweithwyr o Ysbytai |
Dydd Llun 4 Gorffennaf – 12:00-13:00 Dydd Iau 7 Gorffennaf – 12:00-13:00 | Dydd Iau 30 Mehefin – 12:00-13:00 Dydd Llun 11 Gorffennaf – 12:00-13:00 |
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a sut y gallwch gofrestru, cysylltwch â Sophie Bartlett.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!