Datguddio safle claddu enfawr o’r ‘Oesoedd Tywyll yw’r darganfyddiad mwyaf arwyddocaol ers cenhedlaeth
23 Mehefin 2022
Cyn-fyfyrwyr archaeoleg Caerdydd yn helpu i ddatgelu'r fynwent fwyaf o’r cyfnod Eingl-Sacsonaidd gynnar
Mae graddedigion Archaeoleg o Gaerdydd wedi bod yn rhan o dîm sy'n asesu un o'r mynwentydd Eingl-Sacsonaidd Cynnar mwyaf a llawn a ddarganfuwyd erioed.
Gwnaeth archeolegwyr y darganfyddiad rhyfeddol yn 2020 yn Swydd Buckingham wrth weithio ar brosiect HS2 cyn creu’r rheilffordd newydd rhwng Llundain a Birmingham.
Mae'r darganfyddiad mewn lleoliad heb ei ddatgelu ger Wendover yn y Chilterns yn cynnwys safle claddu Eingl-Sacsonaidd o'r 5ed-6ed ganrif gyda 141 o gladdedigaethau wedi'u gosod yn ôl arfer Eingl-Sacsonaidd.
Ymhlith yr arteffactau a gloddiwyd yn ofalus wrth ymyl y rhai a gladdwyd, roedd cleddyfau a phennau gwaywffyn syfrdanol, tariannau wedi'u haddurno'n gywrain a gemwaith canoloesol. Mae'r gwrthrychau hyn sydd bron yn gyflawn yn rhoi cipolwg o'r amser yn union ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Prydain, a hefyd eitemau megis cyllell Eingl-Sacsonaidd.
Disgrifiwyd hwn yn un o'r darganfyddiadau canoloesol cynnar pwysicaf mewn cenhedlaeth.
Roedd y cynfyfyrwyr Archaeoleg Ioan McCarthy (BA Archaeoleg a Hanes, 2019), Phil Holt (BA Archaeoleg, 2018) a Nicholas Wells (Archaeoleg 2004-2011) ymhlith y rhai o Gaerdydd a oedd yn rhan o'r tîm a oedd yn cloddio ac yn dadansoddi'r darganfyddiadau.
Bu Ioan, archeolegydd sy’n canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol Cynnar yn gweithio ar y dadansoddiad ôl-gloddio yng Nghaerdydd. Dechreuodd ym maes archeoleg yn ddiweddarach mewn bywyd. Gwnaeth ei radd yn dilyn llwybr Archwilio'r Gorffennol yn y brifysgol.
Ymunodd Ioan â Dan Snow i esbonio rhai o'r darganfyddiadau anhygoel ar gyfer rhaglen ddogfen deledu newydd 'Digging up the Dark Ages ' gan History Hit TV sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r podlediad Gone Medieval.
Mae'r rhaglenni'n edrych ar y darganfyddiadau dadlennol o ran o hanes Prydain sydd heb ei dogfennu lawer, wrth i arbenigwyr ddechrau deall rhagor am y bobl y tu ôl iddynt, a'r ffordd y gallent fod wedi byw.
Gwyliwch y rhaglen fer hon sy'n cynnwys cynfyfyrwyr Caerdydd.