New home for the School of Healthcare Sciences
22 Mehefin 2022
Bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ar un safle am y tro cyntaf ers ei sefydlu, yn sgil datblygu hen ysbyty milwrol gerllaw Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ar hyn o bryd mae'r Ysgol wedi'i rhannu ar draws dau safle, gyda chyfleusterau addysgu ac efelychu yn Nhŷ Dewi Sant ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn EastGate House yng nghanol y ddinas. Bydd yr Ysgol yn cydleoli i un campws ar ôl gwaith adnewyddu cynhwysfawr o'r hyn a oedd yn fwyaf diweddar yn adeilad yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Ngorllewin Parc y Mynydd Bychan.
ydd yr ailddatblygiad yn creu mwy o le ar gyfer addysgu a mannau addysgol efelychiadol trochi ar raddfa lawer mwy; bydd Tŷ Dewi Sant wedyn yn cael ei ad-drefnu gyda phwyslais ar fannau labordy cyfrifiadurol a swyddfeydd i staff.
Bydd prosiect Gorllewin Parc y Mynydd Bychan yn sicrhau bod yr Ysgol yn darparu'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer niferoedd cynyddol o fyfyrwyr sy'n cynyddu'n gyflym. Bydd hefyd yn galluogi'r ffocws cynyddol ar ddysgu rhyngbroffesiynol ac efelychu trochi.
Bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ar un safle am y tro cyntaf ers ei sefydlu, yn sgil datblygu hen ysbyty milwrol gerllaw Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ar hyn o bryd mae'r Ysgol wedi'i rhannu ar draws dau safle, gyda chyfleusterau addysgu ac efelychu yn Nhŷ Dewi Sant ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn EastGate House yng nghanol y ddinas. Bydd yr Ysgol yn cydleoli i un campws ar ôl gwaith adnewyddu cynhwysfawr o'r hyn a oedd yn fwyaf diweddar yn adeilad yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Ngorllewin Parc y Mynydd Bychan.
Mae addysg sy'n seiliedig ar efelychu yn galluogi myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau proffesiynol a chlinigol, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, mewn profiadau sefyllfaol trochi, bywyd go iawn heb amharu ar ddiogelwch cleifion. Mae'n gwella dysgu myfyrwyr trwy helpu i fagu hyder a throsglwyddo theori i ymarfer. Mae'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael ystod o wahanol brofiadau dysgu mewn amgylcheddau efelychiadol diogel a rheoledig, o gymorth bywyd sylfaenol i sefyllfaoedd brys prin.
Mae addysg sy'n seiliedig ar efelychu ym Mhrifysgol Caerdydd yn cwmpasu ehangder yr hyn sy'n bosibl, gan ddod â myfyrwyr o'r gwahanol broffesiynau at ei gilydd i weithio mewn amgylcheddau rhithwir realistig gydag efelychwyr cleifion, offer a dyfeisiau bywyd go iawn, a thechnolegau trochi gan gynnwys realiti estynedig a rhithwir.
Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys:
- Nifer cynyddol o ystafelloedd ymarferol ar gyfer datblygu ac asesu sgiliau corfforol
- Fflat ac ystafell fyw ddyddiol, gan gynnwys gardd
- Mwy o fythod cyfathrebu
- Fersiwn wedi'i hadnewyddu o Ystafell Efelychu Caerllion, lleoliad ward ysbyty realistig