Gwaith yn dechrau ar ganolfan chwaraeon y Brifysgol
21 Mehefin 2022
Mae gwaith wedi dechrau ar gyfleusterau newydd sbon o'r radd flaenaf ar Feysydd Chwaraeon y Brifysgol yn Llanrhymni. Bydd yn gweddnewid y safle hwn fydd gyda’r ddarpariaeth chwaraeon orau yn y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd, House of Sport (HOS) Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chyngor Caerdydd wedi dod at ei gilydd i gytuno ar drafodiad tir. Bydd y Brifysgol yn trosglwyddo tir yn gyfnewid am gael defnyddio caeau glaswellt ychwanegol yn ogystal â thri chae chwarae pob tywydd pwrpasol â llifoleuadau ar safle Caeau Chwaraeon y Brifysgol yn Llanrhymni.
Yn rhan o’r cytundeb hwn, bydd academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn symud i’r safle yn barhaol. Dim ond nhw fydd yn cael defnyddio rhai rhannau o feysydd chwaraeon Llanrhymni er mwyn creu academi a chaeau hyfforddi newydd i’w defnyddio gan y clwb yn unig.
Ar ben hyn, yn sgîl y buddsoddiad, bydd clybiau chwaraeon lleol yn cael defnyddio’r caeau glaswellt pob tywydd.
Mae’r prosiect yn cynnwys creu cyfleuster pêl-droed 3G Haen-2, cae rygbi safonol IRB 3G â llifoleuadau, cae pêl-droed/rygbi safonol IRB/FIFA a chae hoci synthetig newydd fydd yn cyd-fynd â’r cyfleusterau presennol.
Bydd hyn yn golygu y gall myfyrwyr y Brifysgol a chlybiau chwaraeon lleol ddefnyddio ystod helaeth o gyfleusterau hyfforddi a chwarae o'r radd flaenaf.
Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: “Rwy wrth fy modd bod gwaith wedi dechrau ar yr uwchraddio sylweddol hwn ar ein cyfleusterau chwaraeon a fydd yn eu trawsnewid yn rhai o’r caeau chwarae gorau yn y DU.
“Mae hefyd yn cynnig hwb mawr ei angen i brofiad chwaraeon ein myfyrwyr. Mae'n golygu y bydd mwy o fyfyrwyr yn gallu elwa ar chwaraeon. Gwyddom fod hyn yn gallu helpu i wella a chynnal iechyd meddwl, hybu cyflawniad academaidd a gwella eu rhagolygon wrth chwilio am swyddi.
Bydd y Brifysgol yn gweinyddu'r amserlen ar gyfer meysydd chwaraeon y Brifysgol a phopeth sy’n ymwneud â threfnu’r meysydd chwarae pob tywydd heblaw'r rheini a weithredir gan Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Gellir gwneud pob ymholiad drwy Brifysgol Caerdydd.