Ewch i’r prif gynnwys

Ffug dreialon yn dychwelyd yn dilyn codi cyfyngiadau COVID-19

21 Mehefin 2022

Dyma’r bobl a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth ffug achosion llys, gyda Chofiadur Caerdydd HHJ Tracey Lloyd-Clarke, yn Farnwr. Llun gan Jonathan Marsh.
Dyma’r bobl a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth ffug achosion llys, gyda Chofiadur Caerdydd HHJ Tracey Lloyd-Clarke, yn Farnwr. Llun gan Jonathan Marsh.

Fis Mawrth, cynhaliodd y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol ffug dreial i fyfyrwyr mewn llys y goron go iawn. Roedd yn gyfle i fireinio sgiliau a chymwyseddau eiriolaeth hanfodol.

Mae rhoi profiad i'n myfyrwyr y gallant ei ddefnyddio ar ôl gadael y brifysgol yn rhan allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Cyn y pandemig, byddai’r Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol yn trefnu cystadleuaeth ffug dreialon flynyddol, lle byddai’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Llys y Goron Caerdydd, diolch i gysylltiadau proffesiynol a chyllid gan Times Educational Supplement.

Mae ffug dreial yn dreial troseddol ffug lle mae’r Erlyniad yn ceisio profi ei achos yn erbyn yr Amddiffyniad. Yn rhan o’r ffug dreial, bydd areithiau agor a chau i reithgor, a bydd unigolion yn cael eu galw’n dyst a’u croesholi. Mae trefnu’r treial yn gryn dipyn o waith, ac mae’n cynnwys gwirfoddolwyr sy’n chwarae rolau tystion, barnwr a rheithwyr.

Yn dilyn codi cyfyngiadau COVID-19, gallai’r treial eleni gael ei gynnal ar 25 Mawrth yn Llys 6, Llys y Goron Caerdydd. Cofiadur Caerdydd, HHJ Tracey Lloyd-Clarke, oedd y Barnwr, a staff o’r Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol oedd y Porthor a’r Clerc. Diolch i gyllid, chwaraeodd actorion proffesiynol rolau’r ddau dyst a’r diffynnydd.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd y trefnydd Sarah Waters: “Mae angen sgiliau cyfathrebu, darbwyllo, ymchwilio a dadansoddi ar gyfer y ffug dreial. Mae'n rhaid i'r myfyrwyr lunio cwestiynau ac addasu (i atebion tystion), gan gynnwys gwrando’n astud ac ymateb yn gyflym ac yn effeithiol tra byddant ar eu traed.”

"Ar wahân i elwa’n addysgol o wneud y dasg eiriolaeth, mae’r myfyrwyr yn elwa’n sylweddol o orfod gweithio fel tîm. Mae'n rhaid i bob un ohonynt weithio gyda'i gilydd i lunio 'theori achos' ar gyfer ei ochr a sicrhau bod yr hyn y mae pob un ohonynt yn ei wneud yn symud y theori achos honno yn ei blaen, yn cyd-fynd â gwaith pawb arall ar y tîm ac yn arwain at araith gau bwerus.

Roedd naw tîm wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni. Y myfyrwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Rhys Allen, Mari Watkins, Emily Bennett a Charles Archer (yr Erlyniad) ac Amy O’Hare, Anisha Rai, Sanwal Jamal a Taya Sayekaya (yr Amddiffyniad). Dywedodd HHJ Lloyd-Clarke fod sgiliau eiriolaeth y ddau dîm yn rhagorol ond bod tîm yr Erlyniad wedi ennill o drwch blewyn. Anisha Rai, yn rhan o dîm yr Amddiffyniad, a gafodd ei chanmol fwyaf am ei sgiliau eiriolaeth. Roedd pawb a oedd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gallu gwylio’r digwyddiad. Roedd rhai ohonynt yn rheithwyr (a oedd, yn anffodus i’r diffynnydd, wedi dwyn rheithfarn ‘euog’!).

Yn dilyn y digwyddiad, gwnaeth y Barnwr roi gwobrau a siarad yn unigol â'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Roedd ymarferwyr lleol eraill hefyd yn bresennol, a rhoddwyd cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr rwydweithio.

Rhannu’r stori hon