Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno ag astudiaeth fyd-eang gwerth £20m i fynd i'r afael â chanser plant
16 Mehefin 2022
Darganfod triniaethau effeithiol a mwy caredig i blant â chanser fydd ffocws astudiaeth ryngwladol newydd gwerth £20m sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd.
Disgwylir y bydd yr ymchwilwyr yn derbyn £621,880 gan Cancer Grand Challenges, cynllun sy’n annog gwyddonwyr sy'n arwain y byd i fynd i'r afael â'r heriau anoddaf y mae cleifion canser yn eu hwynebu.
Bydd yr Athro Andrew Sewell, o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, yn rhan o her ‘Next Gen T-Cells’ (NexTGen), a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu triniaethau mwy effeithiol i blant fydd â llai o sgîl-effeithiau.
Mae ei dîm yn arbenigo mewn imiwnotherapi, sef math o driniaeth canser sy'n helpu system imiwnedd y corff i frwydro yn erbyn canser. Maen nhw’n ymuno â phedwar tîm byd-eang o bwys a gafodd gyfanswm o £80m a’u nod yw dyfnhau ein dealltwriaeth o ganser yn y gobaith y bydd yn arwain at ddatblygiadau newydd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Sewell: “Imiwnotherapi yw’r datblygiad mwyaf mewn therapi canser ers mwy na 50 mlynedd. Mae celloedd imiwnedd a elwir yn gelloedd-T, y mae fy labordy wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers mwy na 25 mlynedd, yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn.
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda thîm rhyngwladol enwog i geisio ymestyn y llwyddiant a gafwyd eisoes mewn rhai triniaethau ar gyfer canser y gwaed i ganserau eraill sy’n digwydd yn ystod plentyndod.”
Dan arweiniad ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac Ysbyty Cenedlaethol y Plant yn yr Unol Daleithiau, bydd NexTGen yn canolbwyntio ar ganserau solet mewn plant, megis sarcomâu a thiwmorau ar yr ymennydd, ac yn ceisio datblygu triniaethau newydd a phenodol.
Un o'r rhain fydd therapïau celloedd-T CAR sy'n golygu cymryd celloedd-T claf a'u haddasu yn y labordy i adnabod ac ymosod ar y celloedd â chanser. Gelwir y celloedd-T wedi'u haddasu yn gelloedd-T CAR, ac maen nhw’n cael eu trosglwyddo’n ôl i'r claf drwy ddiferwr.
Ar hyn o bryd, mae therapi celloedd-T CAR yn driniaeth bosibl ar gyfer rhai plant â lewcemia a rhai oedolion â lymffoma, ond hyd yn hyn prin yw'r llwyddiant a gafodd yn achos tiwmorau solet.
Mae'r tîm yn gobeithio y bydd therapi celloedd-T CAR ar gyfer canserau plentyndod solet yn dod yn driniaeth rheng flaen ymhen degawd ac yn helpu i wella nifer y plant â chanserau solet sy’n goroesi a lleihau'r gwenwyndra gydol oes y bydd goroeswyr yn eu hwynebu yn aml.
Mae NextTGen ymhlith y pedwar tîm buddugol a gyhoeddwyd yng nghylch diweddaraf Cancer Grand Challenges, menter ymchwil gwerth £425m a sefydlwyd ar y cyd gan Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Canser Cenedlaethol yr Unol Daleithiau.
Dyma a ddywedodd David Scott, Cyfarwyddwr Cancer Grand Challenges: “Mae canser yn fater byd-eang ac mae angen mynd i’r afael ag ef drwy gydweithio’n fyd-eang. Mae NexTGen yn un o bedwar tîm sydd newydd eu hariannu sy’n ymuno â chymuned wyddonol sy’n mynd i’r afael ag anghenion clinigol heb eu diwallu ym maes ymchwil canser.”