£3m i gyflymu syniadau disglair Caerdydd
15 Mehefin 2022
Bydd syniadau gorau, disgleiriaf a mwyaf arloesol Prifysgol Caerdydd yn elwa o £3m o gyllid i gyflymu’r broses o gyfnewid, gweddnewid a masnacheiddio gwybodaeth.
Bydd y cyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn cefnogi'r gwaith o weddnewid ymchwil cyfnod cynnar y DU i greu swyddi newydd, trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, denu buddsoddiad preifat a chreu partneriaethau newydd gyda busnesau ac elusennau.
Mae grant Caerdydd o £2,998,604 yn rhan o becyn gwerth £118m i gefnogi 64 o sefydliadau ymchwil ledled y DU.
"Dyma'r tro cyntaf hefyd i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) gymryd rhan uniongyrchol yng nghyllid yr IAA, gan fuddsoddi £5m dros dair blynedd. Mae hyn yn gyfle i gefnogi gweithgarwch diwylliannol sy'n cael effaith sylweddol ar gymunedau yng Nghymru a thu hwnt."
Rhoddodd rhaglen IAA UKRI, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, gymorth cyfnod cynnar i brosiectau sydd bellach yn fusnesau byd-eang sefydledig.
Dyma a ddywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Dame Ottoline Leyser: "Mae gan ymchwil ac arloesedd y gallu i wella bywydau a bywoliaethau pobl, adfywio cymunedau ledled y DU a mynd i'r afael â heriau byd-eang. Mae'n hanfodol ein bod yn harneisio'r potensial hwnnw.
"Nid yw'r llwybr rhwng darganfod ac effaith yn un syml ac felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cymorth hyblyg sy'n caniatáu i bobl a thimau talentog, a sefydliadau o safon fyd-eang gysylltu darganfyddiadau â ffyniant a lles y cyhoedd."
Mae'r Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) newydd yn cynnig model symlach ar draws UKRI gan fod un cais bellach sy’n cynnwys adroddiadau a monitro canolog gyda’r bwriad o wella cynllunio strategol.
Yn ogystal, gwahoddir sefydliadau ymchwil sydd â diddordeb mewn cyllid hefyd i ddatgloi effaith ymchwil economaidd a’r gwyddorau cymdeithasol a gwneud cais i alwad IAA yr ESRC, sydd ar agor ar hyn o bryd ac sydd i fod i gau ar 16 Mehefin 2022.