Sioe Myfyrwyr 2022 Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n lansio ar 24 Mehefin
13 Mehefin 2022
Bydd Sioe Myfyrwyr 2022 Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n lansio ag arddangosfa ffisegol ar 24 Mehefin, wedi’i hategu gan Ŵyl Ddigidol rhwng 20 a 24 Mehefin.
Eleni, bydd ein harddangosfa dan arweiniad myfyrwyr yn cymryd cam yn ôl o 'ddelweddau terfynol' dylunio pensaernïol er mwyn dod â chi'n agosach at y prosesau dylunio ac allbynnau dros dro gwahanol sy'n llywio cynigion terfynol ein myfyrwyr. Gyda'n gilydd, rydym am roi cyfle i chi archwilio, astudio a dysgu sut mae brasluniau cychwynnol cyflym yn dod yn ddarluniau manwl, sut mae lluniadau wedi'u dargopïo’n dod yn fodelau 3D wedi'u rendro a sut mae ysbrydoliaeth bensaernïol yn dod yn fanylion adeiladol.
Bydd yr Ŵyl Ddigidol rhwng 20 a 24 Mehefin yn dathlu prosesau dylunio. Bydd ymchwilwyr, penseiri, arbenigwyr technegol a dylunwyr yn rhannu manylion eu prosesau amrywiol mewn nifer o ddigwyddiadau ar-lein sy'n ymwneud â phynciau dylunio cyfrifiadurol, cynrychioli dylunio drwy gyfryngau digidol gweledol, canlyniadau gofodol, dylunio cynaliadwy a chynhwysol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, y diwydiant pensaernïaeth a materion cymdeithasol.
Mae croeso i bawb ddod i’n harddangosfa yn Adeilad Bute yng Nghaerdydd a'r Ŵyl Ddigidol gysylltiedig. Felly, ymunwch â ni i gael profiad cyfoethog a chofiadwy o amrywiaeth anhygoel y broses bensaernïol.
Cofrestrwch ar wefan Eventbrite i fynd i ddigwyddiad agor yr arddangosfa ar 24 Mehefin.
I gael rhagor o fanylion a chofrestru i fynd i'r Ŵyl Ddigidol, ewch i wefan y sioe.