Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad yn y gwaith o sicrhau argaeledd therapi cornbilen sy'n arbed golwg, drwy’r GIG yng Nghymru
13 Mehefin 2022
Mae therapi arbed golwg o'r enw therapi croesgysylltu’r cornbilen wedi'i gymeradwyo'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio i drin cleifion mor ifanc ag 11 oed sy’n dioddef o gyflwr Ceratoconws.
Cyflwr sy'n achosi i'r cornbilen deneuo, gwanhau a bolio tuag allan gan arwain at astigmatiaeth ddifrifol, afreolaidd yw Ceratoconws. Defnyddir therapi croesgysylltu’r cornbilen i wneud y gornbilen yn fwy gwydn ac i atal y ceratoconws rhag gwaethygu.
Mae’r Dr Sally Hayes a'r Athro Keith Meek o'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil therapi croesgysylltu’r cornbilen; maen nhw’n gyd-sylfaenwyr Consortiwm y DU ar gyfer croesgysylltu, sef fforwm ar gyfer offthalmolegwyr, optegwyr a gwyddonwyr golwg sydd wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo’r therapi.
Yn 2013, cymeradwywyd y therapi gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), a daeth yn therapi roedd posib ei derbyn drwy’r GIG yn Lloegr a'r Alban. Fodd bynnag, ni chafodd ei chymeradwyo yng Nghymru gan fod adolygiad o'r therapi a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru o'r farn bod y dystiolaeth ynghylch ei heffeithiolrwydd yn annigonol ar y pryd.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW), sefydliad a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio i wella technoleg iechyd, ail-adolygiad o effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd therapi croesgysylltu’r cornbilen ar gyfer plant ac oedolion â cheratoconws sy’n gwaethygu.
Daeth HTW i'r casgliad wedi hynny fod 'y dystiolaeth o blaid defnyddio therapi croesgysylltu’r cornbilen (CXL) fel triniaeth arferol ar gyfer trin plant ac oedolion sy’n dioddef o geratoconws sy’n gwaethygu'.
Dywedodd Dr Sally Hayes, a fu'n arbenigwr annibynnol yn y broses o adolygu HTW: "Bydd gallu derbyn therapi croesgysylltu’r cornbilen trwy’r GIG yng Nghymru, yn gwella bywydau cleifion sydd â cheratoconws yn sylweddol. Croesgysylltu’r cornbilen yw’r unig ffordd o atal ceratoconws sy’n gwaethygu rhag gwneud hynny, ond mae'r driniaeth hefyd yn helpu cleifion drwy sicrhau na fydd yn rhaid iddynt gael llawdriniaeth trawsblannu cornbilen, sy'n llawdriniaeth fawr."
Yn adroddiad terfynol HTW, cydnabuwyd cyfraniad Consortiwm y DU ar gyfer Croesgysylltu’r Cornbilen, i'r broses ymgynghori fel a ganlyn: 'Ar ôl ymgynghori ag Optometreg Cymru a Chonsortiwm y DU ar gyfer Croesgysylltu’r Cornbilen, cytunodd HTW ei bod yn briodol cyhoeddi Canllawiau wedi'u diweddaru, oherwydd newidiadau sylweddol i'r dystiolaeth oedd ar gael ers cyhoeddi'r Canllawiau gwreiddiol'.
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yw'r cyntaf yng Nghymru i fod yn cynnig y driniaeth drwy’r GIG, ond mae tair canolfan arall ar gyfer therapi croesgysylltu’r cornbilen, yn y gogledd, y de-ddwyrain a'r de-orllewin, ar y gweill fel bod driniaeth ar gael yn haws i gleifion.
Mae dyfarnu grant 5 mlynedd, gwerth £2.4 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i'r Athro Keith Meek, yr Athro Andrew Quantock, Dr Sally Hayes a Dr James Bell ar gyfer astudiaeth raddfa fawr ar y gornbilen wedi helpu i sicrhau bod Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Chonsortiwm y DU ar gyfer Croesgysylltu, yn parhau i chwarae rhan ryngwladol flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu gwell triniaethau ar gyfer ceratoconws a chlefydau eraill sy’n effeithio’r cornbilen.