Trafodwch hyn – deuawd o Gaerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth genedlaethol
10 Mehefin 2022
Bu dau fyfyriwr y Gyfraith o Gaerdydd yn profi eu sgiliau yn rownd derfynol y Gystadleuaeth Negodi Genedlaethol eleni, a noddir gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR).
Gwnaeth Dan Starkey, myfyriwr Diploma Graddedig yn y Gyfraith a Jess Nyabwire, myfyriwr LLM Jess Nyabwire, rhagori yn y rownd derfynol ranbarthol. O ganlyniad, cawsant eu gwahodd i gystadlu yn y rownd derfynol genedlaethol a gynhaliwyd yn swyddfeydd CEDR yn Llundain ar 2 Ebrill 2022.
Yn y gystadleuaeth flynyddol hon mae myfyrwyr o bob rhan o'r DU yn brwydro trwy rowndiau sydd wedi'u cynllunio i brofi eu sgiliau trafod. Mae'r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae'n canolbwyntio ar drafodaeth ar sail gydweithredol ac mae angen ymwybyddiaeth hyderus o ddiddordebau ehangach, opsiynau creadigol a thechnegau perswadio.
Cynlluniwyd twrnamaint eleni er mwyn annog cyfranogwyr i ddefnyddio sgiliau ymarferol yn hytrach na chanolbwyntio ar gymhwyso'r gyfraith. Roedd hyn yn golygu nad oeddent yn edrych ar y sefyllfaoedd trwy lens ‘gyfreithiol’ yn unig. Roedd y trafodaethau eleni yn cynnwys:
- Beth yw'r ffordd orau i ddewis criw ar gyfer llong o'r 18fed ganrif fydd yn cael ei defnyddio gan gwmni te ar gyfer taith hyrwyddo fyd-eang.
- Sut i gael cwmni cynhyrchu teledu i ymddiheuro a thalu iawndal ar ran cwmni gwnaeth ei gynnyrch achosi marwolaeth prif gymeriad ar sioe deledu boblogaidd.
- Datrys anghydfod ynghylch hawliau eiddo deallusol cynnyrch trawsnewidiol, a ddyfeisiwyd yn ystod tasg ar sioe deledu realiti busnes.
- Cynrychiolaeth o dîm Fformiwla 1 yn arwyddo gyrrwr newydd ar gyfer y tymor i ddod yn dilyn terfynu cytundeb un o'u dau yrrwr gwreiddiol ar fyr rybudd.
- Roedd tad teulu wedi marw gan adael ei ail wraig a'i blant o'i briodas gyntaf â dyled anferthol, gan eu gorfodi i wneud newidiadau i'w ffyrdd drud o fyw a dod o hyd i ffordd i fyw'n gyfeillgar.
Er eu bod yn amrywiol, roedd y sefyllfaoedd hyn yn ymgorffori agweddau ar gontractau, cyfraith y cyfryngau, anghydfodau ewyllysiau ac ystadau a chyfraith cyflogaeth. Bu Dan a Jess yn cystadlu â chyfoedion o Brifysgol Nottingham Trent, Prifysgol Edge Hill a Phrifysgol Northumbria. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, myfyrwyr o Brifysgol Caerwysg oedd y pencampwyr eleni. Abertawe oedd y brifysgol o Gymru yn y safle uchaf.
Esboniodd Dan wrth sôn am ei brofiad, “Rydw i wedi dysgu bod cyd-drafod yn debyg iawn i fynydd iâ: mae yna wybodaeth sy’n hysbys i eraill megis honiadau’r pleidiau, eu gofynion, atebion a awgrymir, ond ar yr un pryd mae pethau anhysbys o dan yr wyneb megis emosiynau, hanes, risgiau, gobeithion, neu unrhyw sbardunau masnachol, ac ati. Mae angen i’r partïon sy’n trafod ddeall yr agweddau anweledig hyn cyn dod i ateb sy’n gweithio orau i bawb.”
Ychwanegodd Jess, “Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon wedi fy helpu i ddysgu sgiliau personol sy’n bwysig ar gyfer fy ngyrfa. Rwy’n ddiolchgar iawn i Julie Price a Phrifysgol Caerdydd am greu cyfleoedd mor wych i fyfyrwyr fel fi.”
Gall myfyrwyr y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ddatblygu ystod o sgiliau trwy weithgareddau allgyrsiol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cymwyseddau ymarferol gan gynnwys trafod a chyfweld â chleientiaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Gystadleuaeth Negodi Genedlaethol ar wefan CEDR.