Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Brifysgol Caerdydd yn arwain ar gynllun i wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol

9 Mehefin 2022

senedd

Mae cynllun i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol wedi cael ei lansio, ac academydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Emmanuel Ogbonna, sy’n cyd-gadeirio’r grŵp sydd wedi llunio’r cynllun.

Gan dynnu ar brofiadau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol, mae'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol yn nodi cyfres o gamau gweithredu sy'n canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf.

Mae'n canolbwyntio ar y ffyrdd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig, megis eu profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd, y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, eu rôl yn y gweithlu a'r diffyg modelau rôl gweladwy mewn swyddi o rym.

Mae'r nodau a'r camau gweithredu yn y cynllun yn cwmpasu meysydd polisi ar draws y llywodraeth, gan gynnwys iechyd, diwylliant, cartrefi a lleoedd, cyflogadwyedd, sgiliau ac addysg. Mae iddynt hefyd ffocws ar arweinyddiaeth a chynrychiolaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Ogbonna o Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig dros ben yn hanes Cymru.  Rydym wedi dewis dilyn llwybr gwrth-hiliaeth.  Bydd gweithredu'r cynllun hwn yn llawn yn golygu na fydd cyfleoedd bywyd unrhyw bobl yng Nghymru yn cael eu pennu gan eu tarddiad hiliol ac ethnig.”

Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Mae'r cynllun wedi'i greu ar y cyd â Phobl Ddu, Asiaidd ac o Gefndiroedd Lleiafrifoedd Ethnig, ac mae’n tynnu o'u profiad bywyd hwy, ac mae wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru ac wedi'i lywio gan dystiolaeth.

“Rydym yn benderfynol o sicrhau nad ymarferiad mewn dweud y pethau iawn yn unig yw hyn. Dyna pam fod gennym nodau, amcanion a bwriadau penodol, yn amrywio o arferion mewnol Llywodraeth Cymru, i'n newidiadau uchelgeisiol i bolisïau ar draws adrannau hefyd.

“Bydd y camau a nodir yn y cynllun yn helpu i hyrwyddo marchnad gyflogaeth decach, system addysg a hyfforddiant decach, cydraddoli cyfleoedd a chanlyniadau o ran hil mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol eraill, a dinasyddiaeth weithredol.”

Rhannu’r stori hon