Yn ôl astudiaeth, awgrymir bod COVID-19 a Brexit wedi ‘achosi cynnydd sydyn yn y mathau o gyffur ecstasi sy’n cael eu copïo'
7 Mehefin 2022
Mae astudiaeth newydd wedi tynnu sylw at effaith ymddangosiadol Brexit a'r pandemig ar y fasnach mewn ecstasi, sef y cyffuriau anghyfreithlon (MDMA) a werthir mewn partis.
Canfu ymchwilwyr o The Loop, elusen gwirio cyffuriau yn y DU, nad oedd bron hanner (45%) y sylweddau a werthwyd fel MDMA mewn gwyliau haf yn Lloegr y llynedd yn cynnwys yr un dim ohono – ac yn lle’r rhain roedd cyffuriau eraill megis caffein neu gathinonau. Yn 2019, dim ond 7% oedd y ffigur hwn.
Maen nhw o’r farn ei bod yn bosibl bod cyfuniad o Brexit a chyfnodau clo COVID-19 wedi cyfrannu at gynnydd sydyn yn y mathau o gyffur ecstasi a gafodd eu ‘copïo' yr haf diwethaf - ac maen nhw’n rhybuddio am y risgiau iechyd anhysbys i ddefnyddwyr cyffuriau cyn tymor y gwyliau haf eleni.
Cyhoeddir yr astudiaeth, dan arweiniad The Loop, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Lerpwl, yn y cyfnodolyn Drug Science, Policy and Law.
“Mae'r astudiaeth hon yn dangos sut y bydd cathinonau’n cael eu camwerthu fel pe baen nhw’n MDMA yn ystod cyfnodau o brinder yn y farchnad MDMA,” meddai Dr Mike Pascoe, cydymaith ymchwil ym maes microbioleg fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o’r cyd-awduron arweiniol.
“Arweiniodd cyfnodau clo COVID-19 a chau bywyd nos y DU at gwymp yn y galw am 'gyffuriau parti' gan arwain at lai o gynhyrchu gan y cyflenwyr. Wedyn, wrth i fywyd nos y DU ailagor cyn gwledydd eraill Ewrop, roedd y galw yn fwy na'r cyflenwad. Cymhlethwyd hyn gan achosion o amharu ar y gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â Brexit a oedd wedi effeithio ar y broses o ddosbarthu. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn o gynnwrf yn y farchnad gyffuriau, cafodd sylweddau sy'n edrych fel MDMA eu cam-werthu i gwsmeriaid diarwybod.”
Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar ganlyniadau profion yr ymchwilwyr o bron i 800 o sylweddau a ddadansoddwyd mewn tair gŵyl haf yn Lloegr cyn ac ar ôl y pandemig.
Mae gan The Loop labordy naid sy'n dadansoddi sylweddau sy'n peri pryder. Mae monitro tueddiadau ym myd cyffuriau yn golygu y gall The Loop roi gwybodaeth a rhybuddion cyflym, gan gynnwys i barafeddygon yn y gwyliau haf a'r cyhoedd, a hynny er mwyn lleihau nifer yr achosion o niwed.
Gostyngodd presenoldeb MDMA mewn samplau a werthwyd yn MDMA o 93% yn 2019 i 55% yn 2021. Serch hynny, er eu bod bron yn absennol yn 2019, roedd cathinonau synthetig a chaffein ill dau’n cynnwys oddeutu un rhan o bump o samplau MDMA 2021.
Mae cathinonau synthetig yn gefndryd cemegol amffetaminau (e.e. spîd) a ddaeth yn boblogaidd o ddiwedd y 2000au ymlaen. Yn y DU, roedd cathinonau megis meffedron (MCAT) ar un adeg yn cael eu gwerthu fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”.
Dyma a ddywedodd yr Athro Fiona Measham, un o’r cyd-awduron o Brifysgol Lerpwl a Chyfarwyddwr The Loop: “Roedd y cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o gathinon synthetig yn y DU yn ystod haf 2021 yn cyd-daro â chyfuniad unigryw o ddigwyddiadau gan gynnwys Brexit ac ailagor bywyd nos ar ôl 16 mis o gyfnodau clo, a hynny misoedd cyn gwledydd eraill Ewrop.
“Nid dyma'r tro cyntaf inni weld cathinonau’n cael eu gwerthu’n ecstasi mewn digwyddiadau adloniant yn y DU. Yn 2014, yn fuan ar ôl gwahardd meffedron, dechreuodd methylon ymddangos ym myd cyffuriau'r DU. Ar ôl i fethylon yntau gael ei wahardd, daeth N-ethylpentylon i'r amlwg yn 2017. Yn ystod tymor diweddaraf y gwyliau haf, dyma dri math arall o gathinon yn dechrau dod i’r golwg.”
Roedd dau o'r tri cathinon mwyaf cyffredin a nodwyd gan The Loop yn yr astudiaeth hon yn gyfreithlon yn yr Iseldiroedd yn ystod tymor y gwyliau yn 2021, er iddyn nhw gael eu gwahardd ers hynny.
“Heb brofion labordy, mae'n amhosibl gwybod beth sydd yn y cyffuriau y mae pobl yn eu prynu mewn gwirionedd – ac mae'n ymddangos bod y pandemig a Brexit wedi gwaethygu'r mater hwn,” meddai Dr Pascoe.
“Mae profion cyflym ar y safle, lledaenu rhybuddion, gwybodaeth am sut i leihau’r niwed a rhoi gwybod am y risgiau cysylltiedig drwy'r cyfryngau a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi ffyrdd hollbwysig o roi gwybod i ddefnyddwyr cyffuriau, ymarferwyr a llunwyr polisïau i helpu i leihau’r niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau mewn gwyliau haf a thu hwnt.”
Ychwanegodd yr Athro Measham: “Mae gwasanaeth profion The Loop yn hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau mwy cytbwys. Dydyn ni ddim yn annog nac yn cynorthwyo’r defnydd o gyffuriau ac rydyn ni bob amser yn tynnu sylw at y ffaith na all yr un prawf roi gwybod inni a yw sylwedd yn 'ddiogel' i'w gymryd.”