Ieir am oes nid cinio yn unig
6 Mehefin 2022
Cafodd ieir eu cyflwyno i Brydain, cyfandir Ewrop, a Gogledd Affrica yn hwyrach na’r hyn a dybid o'r blaen, ac fe'u hystyriwyd yn bennaf yn bethau anarferol ac anghyffredin yn hytrach nag yn fwyd, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Antiquity yn un o ddau bapur a gyhoeddwyd heddiw sydd, gyda’i gilydd, yn gweddnewid ein dealltwriaeth o’r ffordd y mae perthynas pobl â’r dofednod poblogaidd hyn wedi newid gyda threigl amser. Mae'r tîm ymchwil rhyngwladol hefyd yn cynnwys academyddion ym mhrifysgol Bournemouth, Caerwysg, Munich, Rhydychen, Toulouse, a phrifysgolion a sefydliadau yn yr Almaen, Ffrainc a'r Ariannin.
Defnyddiodd archeolegwyr ddyddio radio-carbon ar esgyrn o 23 o ieir yr honnir eu bod gyda’r cynharaf yn Ewrop a gogledd-orllewin Affrica. Dyma’r tro cyntaf i raglen o ddyddio uniongyrchol gael ei defnyddio'n systematig yn achos ieir. Cynhaliwyd profion ar ieir mewn 16 o safleoedd, gan gynnwys anheddiad a ddarganfuwyd yn agos i’r A303 ger Côr y Cewri, Howe ar Orkney, ac Orvieto yn yr Eidal.
Bu farw mwy na thri chwarter yr anifeiliaid yn llawer hwyrach nag yr oedd astudiaethau blaenorol yn ei awgrymu. Gan fod dyddiad cynnar ar gyfer llawer o’r adar hyn wedi cael ei wrthbrofi, mae'r dystiolaeth newydd yn dangos nad oedd ieir wedi cyrraedd Ewrop tan y mileniwm cyntaf cyn Crist, tua 800 cyn Crist, yn ôl pob tebyg. Yn ôl amcangyfrifon gan ddamcaniaethau cynharach, a oedd yn seilio eu canfyddiadau ar gliwiau cyd-destunol, megis lleoliad yr esgyrn hyn a’r arteffactau eraill y daethpwyd o hyd iddynt ar y cyd â nhw, roedd yr ieir cyntaf yn crwydro Ewrop ers y cyfnod Neolithig nifer o filoedd o flynyddoedd cyn hynny.
Mae dadansoddiad o strwythur a ffurf yr esgyrn hefyd yn datgelu bod llawer o ieir yn byw bywydau llawer hirach nag ieir heddiw sy'n cael eu bridio ar gyfer cig. Mae hyn yn awgrymu efallai eu bod yn cael eu cadw’n bethau anghyffredin a oedd hefyd yn arbennig ac yn symbolaidd, yn hytrach na chael eu bridio am gig. Mae'r dyddio newydd hefyd yn awgrymu y bu oedi o gannoedd o flynyddoedd mewn llawer o leoliadau rhwng ieir yn cael eu cyflwyno gyntaf a chael eu hystyried yn fwyd go iawn.
Dyma a ddywedodd y prif awdur, Dr Julia Best, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd: “Mae ein rhaglen dyddio radio-carbon yn ailddiffinio'r gronoleg sefydledig o ran pryd y cyrhaeddodd ieir Ewrop a gogledd-orllewin Affrica cyn symud ar draws y diriogaeth hon. Ar ben hyn, dyma'r tro cyntaf i ddyddio radio-carbon gael ei ddefnyddio ar y raddfa hon i benderfynu ynghylch arwyddocâd ieir mewn cymdeithasau cynnar. Nid yw ein canlyniadau'n dangos tystiolaeth ar gyfer ieir yn Ewrop cyn y mileniwm cyntaf cyn Crist.
“Mae llawer o weddillion yr ieir cynharaf y mae dyddiad ar eu cyfer yn sgerbydau cyflawn neu bron yn gyflawn. Er enghraifft, ym Mhrydain nid oes yr un o'r sgerbydau cynharaf hyn yn dangos tystiolaeth o’r broses gigydda neu fod bobl yn eu bwyta; maen nhw hefyd yn aml yn anifeiliaid hŷn. Dangosodd un sbesimen dystiolaeth o doresgwrn a oedd wedi gwella'n dda, gan awgrymu lefel o ofal dynol.
“Mae'r holl gliwiau hyn yn awgrymu, yn hytrach na chael eu hystyried yn ffynhonnell bwyd, fod yr ieir a gyrhaeddodd ogledd Ewrop yn y lle cyntaf yn fwy tebygol o gael eu hystyried yn bethau anarferol ac anghyffredin, yn enwedig o ystyried bod cyn lleied ohonynt ar y pryd. Mewn rhai lleoliadau, yn fuan ar ôl eu cyflwyno, cafodd ieir eu claddu gyda phobl, ac mae hyn yn dangos bod y mathau o berthynas rhwng pobl ac ieir yn gymhleth ac yn ymwneud â mwy na dim ond bwyd am gryn amser.”
Ychwanegodd: “Mae ein canlyniadau'n dangos yr angen i ddyddio sbesimenau yn uniongyrchol. Bellach mae gennym y darlun cliriaf hyd yn hyn o'r ffordd roedden ni’n ymwneud ag ieir yn hanesyddol, o ystyried eu bod wedi dod yn rhan ganolog o ddeiet llawer o bobl ledled y byd.”
Mae dyddio radio-carbon yn golygu dadansoddi’r lefelau o garbon-14 ansefydlog ac ymbelydrol sy’n bresennol yn esgyrn yr ieir. Mae popeth sy’n fyw yn amsugno carbon-14 sy'n bresennol yn yr atmosffer yn ogystal â bwyd o'i gwmpas. Mae hyn yn dod i ben ar ôl iddynt farw, ac mae cyfradd y pydru ymbelydrol yn rhoi terfyn amser i archeolegwyr i'w fesur.
Dyma a ddywedodd yr Athro Naomi Sykes, o Brifysgol Caerwysg: “Mae bwyta ieir yn rhywbeth mor gyffredin fel y bydd pobl bellach yn meddwl nad oes cyfnod erioed wedi bod pan nad ydyn ni ydyn ni wedi eu bwyta. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod ein perthynas yn y gorffennol ag ieir yn llawer mwy cymhleth, a bod ieir yn cael eu dathlu a’u parchu am ganrifoedd.”
Cyhoeddir yr ymchwil hwn, a gyhoeddir yn Antiquity, ar yr un diwrnod ag astudiaeth yn The Proceedings of the National Academy of Sciences UDA, sydd hefyd yn ailasesu tarddiad ieir. Ailwerthusodd y tîm weddillion ieir y daethpwyd o hyd iddynt mewn mwy na 600 o safleoedd mewn 89 o wledydd, gan ddefnyddio gwybodaeth o'r sgerbydau, lleoliad y claddu a chofnodion hanesyddol i olrhain pryd y cafodd ieir eu cyflwyno.
Mae astudiaethau blaenorol wedi honni i ieir gael eu dofi hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl yn yr India, Tsieina neu dde-ddwyrain Asia, a bod ieir yn bresennol yn Ewrop yn fwy na 7,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r astudiaethau newydd yn dangos bod hyn yn anghywir, ac mai'r hyn sy’n gyfrifol am ddofi ieir oedd twf ffermio reis sych yn ne-ddwyrain Asia lle roedd eu hynafiaid gwyllt, sef ffowls coch y jyngl, yn byw. Roedd ffermio reis sych yn denu ffowls gwyllt y jyngl i lawr o’r coed, a dyma felly gychwyn perthynas agosach rhwng pobl a ffowls y jyngl, gan arwain yn y pen draw at ieir.
Roedd y broses ddofi hon ar y gweill erbyn tua 1,500 cyn Crist ym mhenrhyn de-ddwyrain Asia. Mae'r ymchwil yn awgrymu bod ieir wedyn yn cael eu cludo yn gyntaf ar draws Asia ac yna ledled Môr y Canoldir ar hyd llwybrau a ddefnyddid gan fasnachwyr morwrol Groegaidd, Etrwsgaidd a Phoenicaidd cynnar.
Dyma a ddywedodd yr Athro Greger Larson, o Brifysgol Rhydychen: “Mae’r broses hon o ailwerthuso ieir, a hynny mewn ffordd gynhwysfawr, yn dangos yn gyntaf pa mor anghywir oedd ein dealltwriaeth ynghylch pryd y dofwyd ieir a ble roedd hyn wedi digwydd. Ac yn fwy cyffrous fyth, rydyn ni’n dangos sut y bu dyfodiad amaethyddiaeth reis sych wedi arwain yn y pen draw at y broses dofi ieir a’r gwasgaru byd-eang a ddigwyddodd wedyn.”
Cyhoeddir Redefining the timing and circumstances of the chicken’s introduction to Europe and north-west Africa yng nghylchgrawn Antiquity a chewch ei gweld yma.
Cyhoeddir The biocultural origins and dispersal of domestic chickens yn PNAS a chewch ei gweld yma.