Mae cam newydd a gynhaliwyd mewn treial cyffuriau canser y fron yn rhoi gobaith newydd i gleifion â chlefyd nad oes modd ei wella
6 Mehefin 2022
Gallai miliynau o gleifion â chanser y fron nad oes modd ei wella elwa ar ymchwil a arweinir yng Nghymru.
Canfu treial clinigol gan Brifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac AstraZeneca, y gallai cyfuniad o gyffuriau helpu i ymestyn bywydau cleifion â chlefyd nad oes modd ei wella.
Cyflwynwyd y canfyddiadau yn y gynhadledd fwyaf yn y byd ar faterion canser yn Chicago y penwythnos diwethaf a'u cyhoeddi ar yr un pryd yn y cyfnodolyn Lancet Oncology.
Mae'r ymchwil ddiweddaraf yn ychwanegu at dreial clingol o capivasertib yn 2019, sef cyffur canser y fron a ddatblygwyd gan AstraZeneca. Mae Capivasertib yn rhwystro gweithgarwch y protein AKT sy'n cyfrannu at ymwrthedd i therapi hormonau, sef un o'r prif fathau o driniaeth i gleifion sy'n cael diagnosis o glefyd nad oes modd ei wella.
Pan fu i’r ymchwilwyr gyfuno capivasertib â’r driniaeth hormonaidd fulvestrant, dyblodd yr amser yr oedd gan y cleifion eu canser o dan reolaeth (rhwng pum mis a 10 mis).
Yng ngham diweddaraf y treial FAKTION, roedd cleifion a gafodd fwtaniad yn eu canser a oedd yn ysgogi'r protein AKT (a nodwyd yn achos tua hanner y cleifion ar y treial), yn byw am tua 39 mis pan gawsant y cyfuniad hwn, o'i gymharu ag 20 mis pan gawsant yr hormon a phlasebo.
"Mae'r data newydd hwn yn gyffrous iawn. Rydyn ni wedi dangos bod gan capivasertib y potensial i roi estyniad sylweddol iawn i gleifion o ran hyd eu hoes, ond ar ben hynny efallai y byddwn ni’n gallu dethol y cleifion hynny sydd fwyaf tebygol o elwa o'r driniaeth drwy gynnal profion genetig ar feinwe eu canser," meddai'r Athro Rob Jones a gyd-arweiniodd y treial, arbenigwr mewn oncoleg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd a chyfarwyddwr meddygol cynorthwyol ymchwil yn Felindre.
"Rydyn ni bellach yn awyddus iawn i weld a yw hyn yn cael ei gadarnhau mewn treial cam 3 mwy ei faint sydd eisoes wedi cwblhau'r broses recriwtio."
Partneriaeth 10 mlynedd yw’r ymchwil rhwng Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac AstraZeneca. Cydlynodd Canolfan Ymchwil Treialon y Brifysgol y treial yn ogystal â'r canolfannau a gymerodd ran ynddo, ac roedd yn cynnwys tua 150 o gleifion mewn 19 o ysbytai yn y DU. Ariennir Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn bennaf gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU.
Cyflwynwyd y canfyddiadau yng nghynhadledd Cymdeithas Oncoleg Glinigol UDA yn Chicago ar 4 Mehefin.