Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen wedi'i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
10 Mehefin 2022
Mae'r Athro Karin Wahl-Jorgensen, Deon Amgylchedd a Diwylliant y Brifysgol, ac Athro Astudiaethau Newyddiaduraeth, wedi'i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae derbyn cymrodoriaeth gan y gymdeithas, academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a'r gwyddorau, yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth ym maes dysgu.
Mae'r Athro Wahl-Jorgensen wedi bod yn gweithio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ers 2000, lle mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng dinasyddiaeth, y cyfryngau ac emosiwn - a sut mae newid cyflym meysydd technolegol ac arloesedd yn effeithio arni.
Dywedodd yr Athro Wahl-Jorgensen, "Mae'r rhestr eleni o gymrodyr newydd yn dangos bywyd academaidd a dinesig ffyniannus Cymru, a braint yw bod yn rhan o hynny.
"Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i gyfrannu fy arbenigedd at ddealltwriaeth gyfunol y gymdeithas er mwyn hyrwyddo ymchwil ac ysbrydoli dysgu."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas: “Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae cwmpas yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau amgylcheddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd o’n blaenau.
Sefydlwyd y Gymdeithas Ddysgedig yn 2010 er mwyn dathlu ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, hyrwyddo dysgu ac ysgolheictod a lledaenu rhagoriaeth mewn ymchwil yng Nghymru.