Archbwer yw iaith
31 Mai 2022
Mae tri myfyriwr o gwrs Rhaglenni Dogfen Digidol (MA) yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi creu rhaglenni dogfen bach sy'n archwilio thema dwyieithrwydd i gefnogi drama o'r enw Petula.
Roedd y ddrama, a gynhyrchodd Theatr Genedlaethol Cymru ac August012, yn cyfuno comedi dywyll ac antur gyda sgript gan Daf James oedd yn cymysgu Cymraeg, Saesneg ac ychydig o Ffrangeg.
Er mwyn dathlu dwyieithrwydd y ddrama, heriodd y Theatr Genedlaethol Dewi Morris, Deio Jones a Rhiannon Jones, sy'n siaradwyr Cymraeg i gyd, i sgwrio Cymru am straeon am unigolion sy'n defnyddio dwy iaith yn eu bywydau bob dydd.
Pan gyfarfu Dewi â Joseph
Ymwelodd Dewi Morris, o Orllewin Cymru, ag Oasis yng Nghaerdydd - elusen ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches lle cyfarfu â Joseph Gnagbo, ffoadur o Ivory Coast sydd wedi troi ei sgiliau iaith at addysgu.
Meddai Dewi, “Rwy'n mwynhau arddangos gwahanol isddiwylliannau drwy fy rhaglenni dogfen. Roeddwn am gyfweld â Joseph i ddathlu amlieithrwydd, i ddod â phobl o wahanol ddiwylliannau at ei gilydd ac i gadarnhau bod croeso i ffoaduriaid yng Nghymru.”
When Deio met Owain and Gwilym
Deio Jones, from Anglesey, explored the role that language plays in making music with classical singer Owain, from Llandeilo and Ifan, lead singer of band Gwilym, also from Anglesey.
Deio said, “I wanted to share this story to demonstrate the opportunities that become possible when you speak other languages. Interviewing Owain and Ifan opened my eyes to thinking about the role language plays when making music. Language becomes almost a science when you’re creating music in different languages.”
Pan gyfarfu Deio ag Owain a Gwilym
Bu Deio Jones, o Ynys Môn, yn archwilio'r rôl y mae iaith yn ei chwarae wrth greu cerddoriaeth gyda'r canwr clasurol Owain, o Landeilo ac Ifan, prif leisydd band Gwilym, hefyd o Ynys Môn.
Meddai Deio, “Roeddwn am rannu'r stori hon i ddangos y cyfleoedd sy'n dod yn bosibl pan fyddwch yn siarad ieithoedd eraill. Wrth gyfweld ag Owain ac Ifan agorodd fy llygaid i feddwl am y rôl y mae iaith yn ei chwarae wrth greu cerddoriaeth. Mae iaith yn dod yn wyddoniaeth bron pan rydych chi'n creu cerddoriaeth mewn gwahanol ieithoedd.”
Pan gyfarfu Rhiannon â Francesca
Tynnodd Rhiannon Jones, o Faesteg, ei hysbrydoliaeth gan Francesca Elena Sciarrillo, enillydd Gwobr Dysgwr Iaith Gymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019. Trafododd Francesca, o Ruthun, yr effaith y mae iaith yn ei chael ar ei hunaniaeth a'i hymdeimlad o berthyn.
Dywedodd Rhiannon, “Roeddwn i eisiau trafod iaith mewn ffordd bersonol. Rydw i wedi cael fy atgoffa bod perthynas pobl ag ieithoedd yn unigryw ac wedi gwneud i mi feddwl am fy nghysylltiad â'r Gymraeg a'r Saesneg, a sut maen nhw'n cyfrannu at fy hunaniaeth.
“Hoffwn helpu pobl i sylweddoli bod gan ieithoedd werth personol ac emosiynol, na allwch roi pris arno.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rhaglenni Dogfen Digidol, Dr Janet Harris, “Mae rhaglenni dogfen yn unigryw ar gyfer archwilio pynciau hen a newydd yn ddychmygus ac yn fanwl. Nid yw gwneuthurwr rhaglenni dogfen yn gwybod sut, ble na phryd y bydd y stori'n dod i ben. Rhan newyddiaduraeth a rhan gwneud ffilmiau creadigol yw crefftio stori.
“Mae lleoliad ein hysgol yng nghanol Caerdydd yn hwyluso cyfleoedd fel hyn ac yn tynnu sylw at y ffaith nad yw myfyrwyr yn astudio yma yn unig, maen nhw'n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â diwydiannau creadigol prifddinas Cymru.
“Mae Dewi, Deio a Rhiannon wedi creu straeon unigryw sy'n archwilio archbwer y mae gan bob un ohonom fynediad ato – iaith.”