Uno MINDDS ar gyfer cydweithredu rhyngwladol
27 Mai 2022
Mae cynhadledd iechyd meddwl a niwroddatblygiadol yn uno ymchwilwyr ledled Ewrop a'r byd, gan hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol i wella triniaethau i gleifion.
Cynhaliwyd cynhadledd MINDDS y Dyfodol a ariannwyd gan COST, yn Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, gan ddwyn ynghyd 115 o fynychwyr o 34 o wledydd.
Ym mis Ebrill, ymunodd ymchwilwyr â'r gynhadledd, gan ganolbwyntio ar astudio cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylderau niwroddatblygiadol a chyflyrau seiciatrig.
Dywedodd yr Athro Adrian Harwood, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd: "Mae cynhadledd MINDDS y Dyfodol yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ledled Ewrop, gyda'r nod o feithrin cydweithrediadau, sy'n hanfodol i gynhyrchu ymchwil gydag effaith."
Cynhaliwyd y Cyfarfod Llawn agoriadol gan yr Athro Raquel Gur, Ysbyty Plant Philadelphia, ymchwilydd sy'n arwain y byd mewn anhwylderau niwroddatblygiadol.
Mae'r gynhadledd yn uno ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl i wella triniaethau i gleifion a hwyluso cydweithio rhyngwladol.
"Efallai fod y gynhadledd hon wedi cyflawni ein llinell welediad uniongyrchol gyntaf o brofiad cleifion i fecanwaith moleciwlaidd sylfaenol.
Er mai dim ond megis dechrau y mae'r gwaith, mae hyn yn teimlo fel gwawr newydd ac mae'r degawd nesaf yn debygol o'n gweld yn cymryd camau mawr ymlaen o ran deall a budd dilynol i gleifion," meddai'r Athro Adrian Harwood.