Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn talu teyrnged i Bobi Jones wrth ddychwelyd i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

27 Mai 2022

Bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig o Brifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych eleni.

Mae disgwyl i’r ŵyl, a fydd yn cael ei chynnal o 30 Mai tan 4 Mehefin, ddenu hyd at 100,000 o bobl dros yr wythnos, a bydd nifer ohonynt yn cymryd rhan mewn cystadlaethau canu, dawnsio a pherfformio, i enwi ond ychydig.

Bydd y Brifysgol yn rhoi cyflwyniadau ac yn cynnal sesiynau trafod a gweithgareddau ar y Maes.

Mae ei rhaglen o ddigwyddiadau’n cynnwys sesiwn i archwilio microblastigau, cyflwyniad ar ryfeddodau’r ymennydd dynol, sesiynau trafod gyda chynfyfyrwyr sydd wedi symud i faes newyddiaduraeth a’r cyfryngau a sesiwn a fydd yn rhoi’r cyfle i bobl archwilio’r campws drwy dechnoleg realiti rhithwir.

Bydd y Brifysgol hefyd yn noddi Medal Bobi Jones i Ddysgwyr Cymraeg. Cafodd y wobr hon ei henwi ar ôl un o academyddion mwyaf dylanwadol y Gymraeg, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac a ddysgodd yr iaith yn oedolyn.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Wrth i’r Urdd ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, braint a phleser i ni ym Mhrifysgol Caerdydd yw noddi’r fedal sy’n dwyn enw’r dysgwr o Gaerdydd a wnaeth gymaint i rannu’r iaith gydag eraill.

“Rydym yn rhannu’r gwerthoedd y mae’r fedal ei hun yn eu dathlu: ymrwymiad i’r iaith a balchder yn ei chlywed yn byrlymu ar dafodau newydd.”

Dywedodd Catrin Jones, Rheolwr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd unwaith eto, wrth iddi ddychwelyd i’r Maes ar ôl y pandemig.

“Mae ein presenoldeb yn yr ŵyl yn rhan o’n hymrwymiad i godi proffil y Gymraeg a dathlu ei diwylliant. Rydym yn falch iawn o noddi Medal Bobi Jones, gan mai Prifysgol Caerdydd yw cartref Dysgu Cymraeg Caerdydd, lle rydym yn noddi gwersi i staff a myfyrwyr.”

Dywedodd Pennaeth Digwyddiadau Prifysgol Caerdydd, Ali Carter: “Bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau’n cynnwys academyddion blaenllaw yn eu maes ac yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gael gwybod am rywfaint o’n hymchwil pwysig, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc o bob cefndir sy’n dewis astudio gyda ni.”

Rhestr lawn o ddigwyddiadau:

  • Datgelu Plastig: Bydd yr Athro Arwyn Tomos Jones o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn trafod pa mor gyffredin yw microblastigau yn ein hamgylchedd. (Dydd Llun, 30 Mai a dydd Mawrth, 31 Mai am 9am)
  • Y ‘Blwch Ymennydd’: Bydd academyddion yn yr Ysgol Seicoleg yn rhoi cyfle i bobl gael gwybod am ryfeddodau'r ymennydd dynol. (Drwy’r wythnos)
  • Darganfod Prifysgol Caerdydd yn rhithwir: Bydd staff o’r Tîm Ehangu Cyfranogiad wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am sut beth yw astudio yn y Brifysgol. (Dydd Mercher, 1 Mehefin a dydd Iau 2 Mehefin rhwng 9am a 4pm)
  • Cwis Esboniadur y Gwyddorau Cymdeithasol: Bydd y myfyriwr ymchwil, Adam Pierce, a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn sôn am eu hadnodd addysgol ar-lein, Esboniadur y Gwyddorau Cymdeithasol. Dyma gasgliad o gofnodion o gysyniadau, damcaniaethwyr, damcaniaethau a mudiadau ideolegol sy’n ymwneud â'r gwyddorau cymdeithasol i helpu myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg. (Dydd Iau, 2 Mehefin rhwng 9am a 4pm)
  • C21 Addysg Feddygol Gogledd Cymru: Bydd staff a myfyrwyr o'r Ysgol Meddygaeth yn trafod y cyfle i astudio meddygaeth yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â rhoi’r cyfle i bobl roi eu sgiliau clinigol ar brawf. (Dydd Gwener, 3 Mehefin a dydd Sadwrn, 4 Mehefin am 9am)
  • Insta, YouTube a TikTok: Dyfodol Newyddion? Bydd Gwenfair Griffith o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn rhoi cyflwyniad sy’n archwilio’r ffordd rydym yn cael newyddion, a hynny ar y cyd â rhai o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sef Tomos Evans o raglen Newyddion S4C ac Eyitemi Smith o’r cyfrif Twitter Hansh Dim Sbin. (Dydd Gwener, 3 Mehefin am 2pm)

I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon