Prosiect ymchwil yn sicrhau cyllid gwerth £1 miliwn er mwyn ceisio dod o hyd i 'olion adnabod' newydd clefydau’r ymennydd
27 Mai 2022
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau cyllid gwerth bron £1 miliwn i ymchwilio i sut y gall technoleg ddelweddu fwyaf pwerus y byd helpu i nodi arwyddion newydd o glefyd yn yr ymennydd.
Byddant yn edrych yn fanwl ar ymenyddiau cleifion ag epilepsi drwy ddefnyddio'r dechnoleg MRI ddiweddaraf – ond hefyd yn edrych ar feinwe ymenyddol yr un cleifion, a dynnwyd drwy lawdriniaeth, drwy ddefnyddio technoleg MRI arbenigol bellach wedi’i optimeiddio ar gyfer samplau llai, ynghyd â'r microsgopau mwyaf datblygedig hyd yma.
Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), mai dyma oedd y tro cyntaf i'r dull delweddu “aml-raddfa” hwn gael ei ddefnyddio i edrych ar haen allanol yr ymennydd (y cortecs) yn y modd hwn, a’i fod yn gobeithio y byddai'n helpu i ddod o hyd i nifer o glefydau cortigol a’u nodweddu.
“Rydym yn gobeithio y gallai hyn fod o gymorth yn y dyfodol i deilwra llawfeddygaeth yn well ar gyfer pobl ag epilepsi – a helpu mwy o gleifion i fyw bywyd heb ffitiau,” meddai'r Athro William Gray, niwrolawfeddyg sy'n rhan o'r tîm.
Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi rhoi £990,888 ar gyfer prosiect Prifysgol Caerdydd, a hynny’n rhan o £7 miliwn mewn cyllid ar gyfer saith prosiect yn y DU sy’n ymchwilio i glefydau dynol cymhleth, gan gynnwys canser a niwroddirywiad.
Bydd y prosiectau ymchwil yn mynd ati mewn ffordd gydweithredol i gyfuno technegau a thechnolegau arloesol mewn ffyrdd newydd er mwyn gweithio ar draws gwahanol raddfeydd biolegol, o foleciwlau a chelloedd i feinweoedd ac organebau cyfan.
Bydd tîm Caerdydd, gan gynnwys Dr Marco Palombo, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Seicoleg, a Dr Khalid Hamandi o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn canolbwyntio i ddechrau ar gleifion ag epilepsi sydd ag annormaleddau mewn un man yn unig yn strwythur y cortecs (dysplasia cortigol ffocal), y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn parhau i gael ffitiau hyd yn oed ar ôl cymryd meddyginiaeth.
Mae cael gwared ar y feinwe annormal yn llawfeddygol yn aml yn arwain at lai o ffitiau, ond mewn 20-30% o achosion, mae’r ffitiau’n parhau, yn fwyaf tebygol oherwydd newidiadau heb eu nodi yn yr ymennydd.
“Drwy ddefnyddio'r technegau deallusrwydd artiffisial diweddaraf, byddwn yn gwneud gwaith olrhain o lefel gellog i lefel organ gyfan, gyda'r gobaith o nodi olion adnabod newydd yn y meinwe mewn sgan MRI, a allai ddatgelu mecanweithiau clefydau sydd wedi'u cuddio o'r golwg yn y gorffennol mewn sgan MRI confensiynol,” meddai'r Athro Jones.“Rydym yn gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn helpu i wneud yr anweladwy’n weladwy.”
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Phrifysgol Case Western Reserve, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Leeds a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y prosiect, ac mae'r dechnoleg MRI wedi'i darparu gan Siemens Healthineers.
Ymhlith y sefydliadau eraill a fydd yn cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol mae Coleg Prifysgol Llundain, Sefydliad Francis Crick, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Caergrawnt.
Dywedodd yr Athro John Iredale, cadeirydd gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol: “Mae'r dyfarniadau’n deillio o alwad y Cyngor Ymchwil Feddygol am geisiadau, a hynny am gyllid cystadleuol ar gyfer ymchwil amlfodd. Cafodd saith prosiect amrywiol eu dewis o’r holl geisiadau.
“Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi ymrwymo i ariannu ymchwil sy'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf ym maes iechyd. Mae'r prosiectau amlfodd hyn yn rhoi cyfle i wneud gwaith ymchwil newydd sy'n gwthio ffiniau dealltwriaeth gyfredol o glefydau dynol.”