Arbenigwyr prifysgol yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli 2022
25 Mai 2022
Trafod y Ffordd Gymreig, Neoliberaliaeth a Datganoli
Mae Prifysgol Caerdydd yn dychwelyd i’r ŵyl sy’n cael ei pharchu’n rhyngwladol yn bersonol yr haf hwn, gyda digwyddiadau’n ymdrin â dadwybodaeth, neoryddfrydiaeth Gymreig a datganoli, a gwyddoniaeth a chanfyddiad y cyhoedd o arbenigwyr.
Mae Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth a Deon y Gymraeg Dr Huw Williams yn rhan o’r panel o bedwar sy’n trafod y gyfrol The Welsh Way: Essays on neoliberalism and devolution – Dydd Mercher 1 Mehefin, 16:00 (Cube)
Pan gafodd ei gyhoeddi yn 2021, cafodd y llyfr effaith uniongyrchol ar ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru a disgwrs gwleidyddiaeth radical yng Nghymru.
Gan herio rhethreg Llafur Cymru a’i record mewn grym – a’r canfyddiad ehangach o’r chwith Brydeinig – mae ei hystod eang o awduron-weithredwyr, ymarferwyr ac academyddion yn dadansoddi’r naratifau, polisïau a thybiaethau sy’n strwythuro canfyddiadau o’n gwleidyddiaeth, ac yn mynd i’r afael â’r myth. bod gwleidyddiaeth Cymru rywsut yn fwy blaengar na gwleidyddiaeth ei chymdogion.
Bydd cyd-olygydd Welsh Way, Dr Williams yn ymuno ag awdur The Story of Wales Jon Gower, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Mabli Jones, a Catrin Ashton (Y Blaid Gomiwnyddol), yn The Welsh Way: Essays on neoliberalism and devolution ddydd Mercher 1 Mehefin am 16.00 yn The Cube.
Dywedodd Dr Williams:
“Mae’n wych ein bod ni’n gallu trafod gwleidyddiaeth Cymru ar lwyfan o’r fath. Mae prinder y byd cyhoeddus a'r cyfryngau Cymreig - fel y trafodwyd yn y gyfrol gan fy nghydweithiwr Huw Rees - yn golygu ei bod yn aml yn anodd cael y lefel o sylw y mae'r pwnc yn ei haeddu. Mae'r sefyllfa hon ei hun wedi cyfrannu at rai o'r mythau a'r camsyniadau y byddwn yn eu trafod ynghylch cymdeithas wleidyddol unigryw sy'n haeddu, ac yn syml y mae'n rhaid ei thrafod ar ei thelerau ei hun. Yn hyn o beth, mae llwyfannu’r drafodaeth yn y Gymraeg ynddi’i hun yn weithred bwysig a symbolaidd.”
Mae digwyddiadau eraill y Brifysgol yng Ngŵyl y Gelli yn cynnwys darlith amser cinio Disinform, distort, deceive gyda’r Athro Martin Innes o'r Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth ddydd Sadwrn 28 Mai a Science, the public and the pandemic: are we sick of experts? gyda Dr Thomas Woolley a Dr Emma Yhnell, ddydd Llun 30 Mai.
Mae Gŵyl y Gelli yn dychwelyd wyneb yn wyneb yn y Gelli Gandryll rhwng 26 Mai a 5 Mehefin 2022, gyda’i Thocyn Gŵyl Ar-lein hefyd yn rhoi mynediad i 76 o ddigwyddiadau o unrhyw le yn y byd.