Cymuned Grangetown yn dathlu lansio Pafiliwn y Grange
25 Mai 2022
Cafwyd diwrnod llawn digwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu ym Mhafiliwn y Grange y penwythnos diwethaf i ddathlu lansiad swyddogol y prosiect cymunedol.
Daeth aelodau o'r cyhoedd ynghyd yn yr hen bafiliwn bowlio ddydd Sadwrn i gymryd rhan mewn llu o weithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau gwyddoniaeth a chelf yn ogystal â sesiynau chwaraeon gan Ddinas Caerdydd a Chriced Cymru.
Roedd busnesau lleol wrth law yn gwerthu bwyd a diod, ac roedd perfformiadau cerddoriaeth a dawns yn gyfeiliant i’r cwbl drwy gydol y dydd.
Cafodd plant ysgol o feithrinfeydd ac ysgolion lleol y dasg o dorri rhuban y Pafiliwn, ar ôl iddyn nhw ennill cystadleuaeth pan gawson nhw’r dasg o greu rhywbeth a oedd yn cynrychioli'r hyn yr oedd Grangetown yn ei olygu iddyn nhw.
Cafodd aelodau'r cyhoedd y cyfle hefyd i siarad yn hamddenol â chyllidwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaid prifysgol sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect ailddatblygu gwerth £1.8m yn ystod y degawd diwethaf.
Mae Pafiliwn y Grange yn cael ei reoli gan Grange Pavilion CIO sy’n sefydliad elusennol. Mae 60% o’r sefydliad yn drigolion a’r partneriaid sefydliadol Prifysgol Caerdydd, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Cymdeithas Tai Taf a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB).
Mae Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi mwy na 70 o brosiectau ar y cyd rhwng y gymuned a’r Brifysgol ers 2012, gan greu cysylltiadau rhwng staff Prifysgol Caerdydd, myfyrwyr a thrigolion Grangetown, a hynny er mwyn dod â syniadau dan arweiniad y gymuned megis Pafiliwn y Grange yn fyw ar y cyd.
Ymhlith y prosiectau partneriaeth eraill rhwng Grangetown a Phrifysgol Caerdydd y mae Fforwm Ieuenctid Pafiliwn y Grange, Fforwm Busnes Grangetown a Marchnad y Byd Grangetown, rhaglen Gwyddoniaeth Dinasyddion Pharmabees, grŵp rhedeg cymdeithasol Run Grangetown, mentora Hyrwyddo Rhagoriaeth Academaidd (PACE), diwrnod blynyddol i ddathlu iechyd meddyliol, wythnosau Gyrfaoedd a Modelau Rôl blynyddol a diwrnod cynllunio a dathlu Caru Grangetown yn flynyddol.
Bu Grange Pavilion CIO yn gweithio ar y cyd â Phenseiri Benham, grŵp IBI, a CDF Planning ar adnewyddu'r Pafiliwn yn llwyr ac ychwanegiad unllawr ar ymyl ddwyreiniol y lawnt fowlio.
Adeiladwyd rhan o'r Pafiliwn o friciau ar gyfer gwenyn, adar ac ystlumod i greu lle croesawgar ar gyfer pryfed a mynd a dod anifeiliaid, ac mae yno hefyd le i nythu.
Yn yr adeilad ei hun, mae tair ystafell fawr er mwyn cymdeithasu a chaiff trigolion y gymuned a grwpiau megis clybiau gwaith cartref, therapi celf a gweithgareddau chwaraeon dan do eu llogi ymlaen llawn.
Dyluniwyd ystafell ddosbarth allanol hefyd, sef lle i ddysgu a chydweithio yn yr awyr agored sy'n gysylltiedig â'r ysgol leol a gweithgareddau garddio cymunedol ar ôl ysgol.
Cwblhawyd yr ailddatblygiad gwerth £1.8m yn 2020 a'i agor yn hydref y flwyddyn honno, a chafwyd lansiad ar-lein ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19. Oherwydd rhagor o gyfnodau clo yn ystod y gaeaf, roedd yn rhaid i'r adeilad gau ar ôl ychydig o wythnosau yn unig, ac nid oedd wedi ailagor tan fis Mai 2021.
Yn ôl Mhairi McVicar, arweinydd prosiect y Porth Cymunedol: “Roedd y digwyddiad hwn yn ddathliad gwych o'r holl flynyddoedd o weithio gyda'n gilydd. Yn ystod y degawd diwethaf, mae Pafiliwn y Grange wedi dod â channoedd o unigolion a sefydliadau at ei gilydd ar draws Grangetown a Phrifysgol Caerdydd. Y cychwynbwynt oedd grŵp bach o drigolion a oedd wedi penderfynu gwneud rhywbeth am adeilad gwag mewn parc lleol. Mae'r partneriaethau sydd wedi tyfu o ganlyniad i hyn yn ymrwymo i sicrhau bod yr adeilad hwn dan arweiniad a rheolaeth y gymuned yn llwyddiannus yn y tymor hir, ac roedd pawb yn gallu gweld y gefnogaeth i Bafiliwn y Grange heddiw.”