Digwyddiad Cymdeithasol yn ystod yr Haf
25 Mai 2022
Dawns hynod boblogaidd y Gymdeithas Llenyddiaeth Saesneg i gael ei chynnal bob blwyddyn
Y mis hwn, gwnaeth myfyrwyr o bob rhan o’r Ysgol fwynhau dawns haf.
Ar ôl byw dan gyfyngiadau yn ystod pandemig COVID-19, gwnaeth mwy na 250 o fyfyrwyr gipio tocyn ar gyfer y ddawns yng Ngwesty’r Angel – tafliad carreg o Stadiwm Principality.
Gwnaeth yr Ysgol leihau pris y tocynnau £10 i’w myfyrwyr yn rhan o fenter dan arweiniad Rheolwr yr Ysgol a’r Tîm Profiad Myfyrwyr.
Roedd y ddawns yn llwyddiant ysgubol. Oherwydd hynny, mae’r Gymdeithas Llenyddiaeth Saesneg yn bwriadu cynnal y ddawns ar raddfa fwy eto’r flwyddyn nesaf.