This Is Not Who We Are
24 Mai 2022
Nofel gyntaf ar gyfer seren newydd y byd ysgrifennu creadigol
Mae Sophie Buchaillard, cynfyfyriwr MA a thiwtor mewn ysgrifennu creadigol, ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf cyn iddi raddio’r haf hwn.
Wedi’i hysbrydoli gan brofiad personol yn ystod ei phlentyndod, mae This Is Not Who We Are yn naratif sydd yn ysgogi’r meddwl ac yn dilyn stori dwy fenyw o safbwyntiau tra gwahanol sy’n rhannu eiliad mewn amser. Mae’r nofel gyntaf hon yn afaelgar ac yn archwilio sut mae ein hanes torfol yn effeithio arnom ni fel unigolion a’r effaith hirdymor ar deuluoedd sydd wedi ymfudo yn sgil digwyddiadau trawmatig.
Ebrill 1994. Mae awyren Arlywydd Rwanda yn cael ei saethu i lawr dros Kigali. Mae ei lofruddiaeth yn tanio difodi torfol o 800,000 o Tutsi a Hutu cymedrol gan yr eithafwyr Hutu, dros gyfnod o 100 diwrnod.
Mae This Is Not Who We Are yn dilyn stori dwy ddynes, Iris sy'n Ffrances a Victoria sy'n Rwandaidd. Yn 1994, maent yn ffrindiau llythyr plentyndod. Yn ei llythyrau, mae Iris, merch un o swyddogion y llywodraeth, yn dweud wrth Victoria am fywyd ym Mharis. Yn y cyfamser, mae Victoria, a gafodd ei gorfodi i ffoi o Rwanda gyda'i brodyr, yng ngwersyll ffoaduriaid Goma (Zaïre). Un diwrnod daw llythyrau Victoria i ben. Yr unig beth mae iris yn ei wybod yw ei bod hi wedi cael ei symud.
Llundain, 2014. Mae Iris, sy’n newyddiadurwr a’n fam newydd yn cyflwyno stori i'w golygydd i ymchwilio i'r hyn a allai fod wedi digwydd i Victoria. Ar daith o ddarganfod, daw pethau i’r amlwg sy’n peri iddi gwestiynu ei gorffennol ei hun. A oedd ei thad, rhywsut, yn rhan o'r hil-laddiad? A yw atgofion ei phlentyndod yn fwy ffuglen na ffaith? Pam mae hi'n chwilio am Victoria, mewn gwirionedd?
I Victoria, bu’r ugain mlynedd diwethaf yn flynyddoedd o fudo: Goma - Paris - Llundain. Gan ddechrau bywyd newydd gyda’i brawd ieuengaf, mae’n gadael y gorffennol yn y gorffennol. Neu felly mae hi'n meddwl, nes iddi wynebu'r penderfyniad yn sydyn i ailgysylltu â'i brawd canol sy'n cefnogi hil-laddiad.
Mae Sophie o Benarth (MA Ysgrifennu Creadigol, 2020) yng nghamau cynnar ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn adran glodwiw’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Dywedodd Sophie: “Rhoddodd y radd MA Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd fynediad i mi at gymuned gefnogol o awduron a roddodd gyngor ac adborth amhrisiadwy ar fy nhaith i ddod yn awdur cyhoeddedig. Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r haf hwn ac at lansiad y nofel yn y Pier ym Mhenarth.”
Dywedodd goruchwyliwr Sophie a’r awdur arobryn, Richard Gwyn:
“Mae nofel Sophie Buchaillard yn ein hatgoffa’n noeth ac yn arswydus mai ychydig iawn sydd yn gwahanu’r cyfarwydd oddi wrth yr affwys, a chysuron y cartref oddi wrth y trais mwyaf aflan ac eithafol. Mae’n adlewyrchiad cain a phrin o’r hyn y mae’n ei olygu i gadw’ch dynoliaeth yn wyneb cataclysm creulon a dad-ddyneiddiol.”
Cyhoeddir This Is Not Who We Are gan Sophie Buchaillard gan Seren Books ar 13 Mehefin.
Mae ei gwaith ysgrifennu am deithio yn ymddangos yn y casgliad newydd An Open Door: New Travel Writing for A Precarious Century, sydd wedi'i olygu gan Steven Lovatt a'i gyhoeddi gan Parthian.