Dr Ana Ros Camacho yn ennill gwobr Hyrwyddwr Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr
23 Mai 2022
Mae Dr Ana Ros Camacho, Darlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad at wella profiad y myfyrwyr, a hynny â’r wobr Hyrwyddwr Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, yn ddiweddar.
Digwyddiad blynyddol yw'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a grëwyd i gydnabod y staff a myfyrwyr arbennig hynny sy'n cyfrannu at brofiad myfyrwyr Caerdydd. Mae’r wobr dros faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cydnabod myfyriwr neu aelod o staff sydd wedi gweithio i leihau neu gael gwared ar y pethau hynny sy’n gallu rhwystro cyfranogiad, yn ogystal â bod yn fodel rôl i, ac o fewn i, grwpiau a dangynrychiolir.
Parhaodd Ana â'r gweithgarwch hwn ar ôl cyrraedd Caerdydd ym mis Ionawr 2020. Trefnodd y gweithdy "Menywod ym maes Ffiseg Fathemategol" cyntaf ym mis Medi 2020, a bydd yr ail weithdy yn digwydd yn BIRS-Banff (Canada) ym mis Awst 2023. Ar y cyd â'r myfyriwr ymchwil Tasarla Deadman, lansiodd y Special EDI-tion Colloquium, sef colocwiwm unwaith-y-semester ynghylch materion EDI yn y gymuned fathemateg academaidd. Mewn menter ar y cyd â Dr Kirstin Strokorb, bu i Ana hefyd greu’r Fforwm Cyfnewid ynghylch Addysgu a Goruchwylio" (TEASER), sef cyfarfod misol er mwyn i staff drafod ein harferion addysgu a goruchwylio, gan sicrhau bod EDI yn chwarae rhan bwysig yn hyn. Mae Ana hefyd wedi cefnogi'r Gymdeithas Menywod mewn Mathemateg leol drwy fynychu rhai o'u cyfarfodydd a rhoi cyflwyniad oedd yn myfyrio ar ei phrofiad personol ei hun o fod yn fathemategydd benywaidd. Ym mis Ionawr 2022, fe dderbyniodd rôl Cadeirydd y Pwyllgor EDI lleol, ac o’r fan honno mae'n cydlynu llawer o gamau gweithredu i wella EDI yn yr Ysgol Mathemateg, ar gyfer myfyrwyr a staff fel ei gilydd.
Dywedodd Ana: "Rwy'n teimlo mor hapus i ennill y wobr hon ac yn ddiolchgar iawn, iawn. Mae'n rhoi cymhelliant pellach i mi barhau ar y llwybr hwn a sicrhau bod gennym yr ysgol orau bosibl i'n myfyrwyr a'n staff. Mae mathemateg yn ffynnu gydag EDI!"
Enwebwyd y myfyriwr ôl-raddedig Tasarla Deadman hefyd yn Hyrwyddwr Myfyrwyr dros Faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac enwebwyd y myfyriwr israddedig Naomi Wray ar gyfer Gwobr y Llywydd am ei gwaith yn Llywydd ar y Gymdeithas Pobl Fyddar.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Dr Jonathan Thompson "Mae'n wych gweld y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan Ana, Tasarla a Naomi yn cael ei gydnabod fel hyn. Llongyfarchiadau enfawr a diolch iddynt am eu gwaith caled."