YPC yn croesawu partneriaid UCL a chyrff anllywodraethol o Wganda mewn gweithdy cydweithredol yng Nghaerdydd
23 Mai 2022
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru weithdy cydweithredol ar gyfer yr Uned Cynllunio Datblygu (UCD) yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ynghyd â chwe phartner anllywodraethol o Wganda a'r DU i ddeall y diwydiant datblygu yn Kampala, Wganda.
Cynhaliwyd y gweithdy rhwng 1 a 7 Mai ac roedd yn gyfle i gyfranogwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r diwydiant datblygu yng nghyd-destun gwlad sy'n datblygu (Kampala, Wganda yn arbennig) trwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag arferion a rhanddeiliaid ym maes datblygu. Prif amcan y gweithdy oedd rhoi'r arbenigedd dadansoddol, methodolegol ac ymarferol sydd ei angen ar gyfranogwyr i gael dealltwriaeth feirniadol o arferion datblygu a gwneud cyfraniadau cadarnhaol at yr ymdrech ddatblygu mewn gwledydd y maent yn ymwneud â nhw neu y byddant yn ymwneud â nhw. Fel rhan o'r ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar ymarfer, archwiliodd cyfranogwyr wahanol feysydd thematig ynglŷn â thai fforddiadwy, addysg gynnar, aneddiadau dynol cynaliadwy, y newid yn yr hinsawdd, a rheoli adnoddau naturiol.
Roedd y themâu a oedd wedi'u neilltuo i gyrff anllywodraethol penodol fel a ganlyn:
- Dinasoedd Deallus a Chynhwysol trwy well gwasanaeth cymdeithasol ar gyfer tlodion Trefi gyda Mentrau Datblygu Integredig Cymunedol (MDIC)
- Y Newid yn yr Hinsawdd a Threfoli gydag ACTogether
- Polisïau, cyfreithiau a rhaglenni anheddau dynol ymatebol gyda (Dewisiadau Lloches ac Anheddau Amgen (DLlAA))
- Mentrau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned gydag Undeb Cydweithredol Tai Wganda (UCTW)
- Addysg Gynnar o Safon gyda CALM-Affrica
- Adfer Adnoddau ac Ailgylchu Gwastraff gyda Menter Datblygu Cymunedol Lleol Plwyf Kasubi (KALOCODE)
Yn ystod y gweithdy, cyflwynodd yr Athro Juliet Davis (Pennaeth yr Ysgol, Ysgol Pensaernïaeth Cymru) ddarlith am 'Ddinasoedd Gofalgar' a rhoddodd yr Athro Mhairi McVicar (Athro Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Arweinydd Porth Cymunedol) ddarlith am bartneriaeth prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol â chymuned Grangetown yng Nghaerdydd ac arweiniodd daith o amgylch ardal Grangetown. Siaradodd Dr Shibu Raman (Darlithydd mewn Pensaernïaeth a Threfoli, Ysgol Pensaernïaeth Cymru) am ei stiwdio ddylunio 'Liveable Urbanism' a bu hefyd yn arwain clinig polisi. Cefnogwyd y gweithdy gan ddau fyfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd; Ms Weronika Tadrak (Ysgol Pensaernïaeth Cymru) a Ms Ying Liao (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio)
Daeth yr wythnos i ben gyda chyflwyniadau grŵp ac arddangosfa bosteri yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Cynhyrchodd Dr Raman fideo byr o'r digwyddiad pum diwrnod a gafodd ei sgrinio ar y diwrnod olaf:
Dywedodd Dr Shibu Raman, un o drefnwyr y digwyddiad ac o’r Darlithwyr mewn Pensaernïaeth a Dylunio Trefol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru:
"Roedd y gweithdy'n llwyddiant mawr gyda phawb yn ymwneud yn frwd â’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid, gweithdy polisi, ymweliadau safle a gweithgareddau eraill y gweithdy. Roedd hefyd yn gyfle gwych i bob un ohonom ddatblygu cysylltiadau da â phartneriaid cyrff anllywodraethol yn Wganda a rhannu ein profiadau. Roeddent i gyd yn mwynhau cyfleusterau newydd Adeiladau Bute ac yn canmol yr ysgol am yr holl gymorth a ddarparwyd gennym yn ystod y digwyddiad. Fel menter newydd i feithrin partneriaeth addysgu ac ymchwil hirdymor ag Uned Cynllunio Datblygu UCL, roedd llwyddiant y digwyddiad hwn yn hanfodol i'r ddwy ysgol fel y gallwn adeiladu ar hyn yn y dyfodol."