Athro er Anrhydedd wedi ei enwi’n Gymrawd Emeritus Leverhulme
19 Mai 2022
Mae’r Athro Colin H. Williams, Athro er Anrhydedd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi ei enwi’n Gymrawd Emeritus Leverhulme.
Cyflwynwyd yr anrhydedd i alluogi’r Athro Williams i barhau â’i ymchwil ar Drawsnewid Cyfundrefnau Ieithoedd Swyddogol fel Uwch Gydymaith Ymchwil, Sefydliad Von Hügel, Coleg Edmwnd Sant, Prifysgol Caergrawnt.
Dehonglir polisi iaith leiafrifol fel mynegiant o barch ac urddas. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn ymgais i leihau'r straen strwythurol o ganlyniad i ddulliau camwahaniaethu hanesyddol gan y system wladwriaeth fodern.
Bwriad y prosiect yw cynnal dadansoddiad cymharol o bolisïau iaith mewn nifer o awdurdodaethau yn Ewrop a Chanada. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae mewnfudo yn dylanwadu ar ddatblygiad cynllunio a hyrwyddo iaith swyddogol; y ddarpariaeth a wneir ar gyfer siaradwyr newydd; cryfhau rhwydweithiau; a gweld i ba raddau mae awdurdodau dynodedig yn cydymffurfio â rheoliadau iaith swyddogol.
Mae’r Athro Williams yn sosioieithydd o fri rhyngwladol. Mae wedi bod yn weithgar mewn rhwydweithiau ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn ogystal â chyfrannu at ddatblygiad polisïau llywodraethau mewn sawl gwlad. Mae ei gyfrol ddiweddaraf Language Policy and the New Speaker Challenge’ i’w chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt nes ymlaen eleni (hydref 2022).