Dyn â diddordeb angerddol mewn crysau mael yn helpu i gadw treftadaeth yn fyw
19 Mai 2022
Cadwraethwr a hyfforddwyd yng Nghaerdydd yn rhannu ei arbenigedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Mae Phil Parkes, cadwraethwr o Gaerdydd sydd â diddordeb angerddol mewn crefftau treftadaeth, yn tynnu sylw at ei arbenigedd mewn arddangosfa sy’n cael ei chynnal i gadw crefftau Cymru’n fyw.
Mae arddangosfa Crefftwr | Heritage Crafts yng Nghymru,sy’n rhoi sylw manwl i sgiliau crefft treftadaeth – o’r rhai sydd mewn perygl difrifol o ddiflannu i’r rhai sy’n ffynnu, o waith crydd i lithograffeg, o fasgedwaith i doi â gwellt – yn dathlu’r bobl sy’n cadw ffyrdd traddodiadol o weithio’n fyw ac yn dangos bod Cymru’n lleoliad pwysig ar gyfer crefftau treftadaeth.
Gall y rhai sy’n ymweld â’r arddangosfa weld enghreifftiau eithriadol o waith crefft gwreiddiol – gan gynnwys crysau mael wedi’u rhybedu â phinnau a lletemau, a saernïwyd gan y cadwraethwr – ochr yn ochr â chyfres o ffotograffau gan Dewi Tannatt Lloyd, a gomisiynwyd yn arbennig i ddogfennu’r gwneuthurwyr yn y stiwdio.
Oherwydd ei ddiddordeb mewn sgiliau ymarferol a sgiliau crefft, aeth Phil ati i ymchwilio i arfwisgoedd mael a chreu ei rai ei hun drwy ddefnyddio technegau traddodiadol. Mae’n rhannu sut mae ei waith i greu copi o arfwisg safonol o’r 15fed ganrif yn dod yn ei flaen. Yn fwyaf diweddar, rhannodd ei arbenigedd mewn gweithdy gwneud crysau mael yn Amgueddfa Firing Line, yn rhan o benwythnos llawn gweithgareddau i deuluoedd.
Ac yntau’n cefnogi cannoedd o fyfyrwyr drwy addysgu amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yn labordai cadwraeth arbenigol y Brifysgol, mae’r cadwraethwr o Gaerdydd wedi gweithio ar bob math o arteffactau o’r DU a thramor ar gyfer amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth.
Ymhlith ei uchafbwyntiau mae gweithio ar deils faience Eifftaidd oddi tanodd pyramid grisiog Djoser a datgladdu celciau arian Rhufeinig yn ddiweddar yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys trysorau canoloesol yn Sir Benfro. Mae’r pethau hyn i gyd yn cael eu harddangos yn eu priod gartrefi: yr Amgueddfa ar gyfer Celf Islamaidd yn Doha, Amgueddfa Sir Gâr a Chadeirlan Dewi Sant.
Mae’r Darllenydd Cadwraeth Phil Parkes ACR, FIIC (BSc Cadwraeth Archaeolegol 1992) yn addysgu amrywiaeth eang o gyrsiau cadwraeth i israddedigion ac ôl-raddedigion yn y Brifysgol.
Mae Crefftwr | Heritage Crafts yng Nghymru, a guradir gan Lewis Prosser, yn bartneriaeth sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng Oriel Tŷ Turner a Heritage Crafts. Bydd yr arddangosfa ar gael tan 12 Mehefin yn Oriel Tŷ Turner, Penarth ym Mro Morgannwg.