Polisi Masnach Newydd y DG: lansiad ar y cyd i ystyried masnach a datganoli
19 Mai 2022
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, Masnach Deg Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn partneru â'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol ar gyfer lansiad ar y cyd ar 9 Mehefin yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Bydd y digwyddiad yn lansio Cyfiawnder Masnach Cymru, a'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol (CITP), dau brosiect mawr sy'n ceisio rhoi llais i gymunedau, sefydliadau a busnesau Cymru ym mholisi masnach ar ôl yr UE yn y DG.
Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng y WGC a Masnach Deg Cymru a ariennir gan grant Arloesi i Bawb Prifysgol Caerdydd, ac a fydd yn codi llais cymdeithas sifil Cymru ynghylch masnachu.
Mae'r CITP yn ganolfan ymchwil newydd o bwys a ariennir gan grant o £8 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n anelu at roi'r gallu i'r DG lunio a gweithredu polisïau masnach sydd wedi'u teilwra at anghenion y DG gyfan.
Ar ôl gadael yr UE, mae'n rhaid i'r DG nawr lunio a gweithredu ei pholisi masnach ei hun a fydd yn effeithio ar ganlyniadau economaidd, cymdeithasol a lles ar gyfer cymunedau ledled y DG. Gall cytundebau masnach hefyd gael effaith a chael eu defnyddio i ddilyn polisïau mewn amrywiaeth o feysydd – o gydraddoldeb ac iechyd y cyhoedd, i ddatblygu cynaliadwy a safonau bwyd a ffermio. O ganlyniad, mae cwestiynau polisi a llywodraethu sylweddol, yn enwedig ynghylch sut y caiff llais Cymru ei adlewyrchu ym masnach y DG, y mae angen eu harchwilio o hyd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhagarweiniad am 13:00 gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, ac yn rhoi cyfle i gael lluniaeth a rhwydweithio. Mae'n agored i bawb sydd â diddordeb mewn polisi masnach, datganoli ac a allai fod o ddiddordeb arbennig i academyddion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cysylltu a rhwydweithio ag arbenigwyr.
Mae cofrestru ar gael drwy ddilyn y ddolen hon, a bydd y digwyddiad yn dechrau am 12:30.