Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr 2022
18 Mai 2022
Ysgol un dathlu'r rhai sy'n mynd yr ail filltir i fyfyrwyr
Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn dathlu effaith cynrychiolwyr staff a myfyrwyr yn y gwobrau blynyddol eleni, gan fod 6 o enwebeion ar y rhestr fer o 15 a enwebwyd yn yr ysgol. Enillodd yr Ysgol yng nghategorïau Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr y Flwyddyn a Chynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn.
Seremoni wobrwyo flynyddol yw’r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr (ESLA), a gafodd eu creu i gydnabod cyfraniad rhyfeddol yr aelodau o staff a’r myfyrwyr sydd wedi helpu i gyfoethogi profiad y myfyrwyr.
Dyma a ddywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro James Hegarty:
“Rwy’n falch iawn bod yr ysgol wedi gwneud cystal yng ngwobrau ESLA eleni. Mae hyn yn dangos gwaith caled cydweithwyr a’r myfyrwyr fel ei gilydd.”
Y 6 ar restr fer yr ysgol yn 2022 yw Dr Padma Anagol (Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn), Dr Paul Webster (Tiwtor Personol y Flwyddyn) a Dr Nicki Kindersley (Enillydd, Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr y Flwyddyn), Anna Moller (Enillydd, Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn - Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) a Phedra Komodromou (Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn - Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol).
Gwahoddir pawb a enwebir i seremoni wobrwyo a gynhelir ddechrau mis Mai bob blwyddyn.
Dyma ddeuddegfed flwyddyn y gwobrau, ac roedd enwebeion o’r ysgol yn ymddangos yn 7 o'r 10 categori gwobrau.