School celebrates increase in Research Power in REF 2021
17 Mai 2022
Yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, mae gallu ac effaith ei hymchwil wedi treblu bron iawn ers REF 2014.
Cafodd yr Ysgol sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) o 3.45 yn REF 2021, ac ystyriwyd 99% o'n cyflwyniad cyffredinol gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesu safon yr ymchwil sy’n cael ei gwneud yn sector addysg uwch y DU, gan roi sicrwydd inni o’r safonau rydym yn anelu tuag atyn nhw.
Mae ein hymrwymiad i sicrhau diwylliant gweithio ar y cyd sy’n amrywiol ac yn gynhwysol yn cael ei adlewyrchu yn ein sgôr o ran pŵer ymchwil (sef dangosydd o raddfa a safon ein cyflwyniad), sydd wedi treblu bron iawn ers REF 2014.
Dyma a ddywedodd yr Athro Peter Smowton: “Mae rhagoriaeth ac arbenigedd staff yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi cael eu gwobrwyo yn sgîl llwyddiant canlyniadau REF 2021. Rwy'n falch o waith pawb i wneud y canlyniadau REF hyn yn bosibl, ac rwy’n ddiolchgar amdano.”
Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn aelod allweddol mewn llawer o brosiectau cydweithio gwyddonol yn rhyngwladol. Gyda'i gilydd maen nhw’n gwthio ymchwil a’r gwaith o ddatblygu a deall egwyddorion ffisegol sylfaenol, technolegau newydd, a'r cosmos ei hun.
I wybod rhagor am yr ymchwil arloesol a wneir yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ewch i’r tudalennau ymchwil ar wefan ein hysgol .
Cewch y manylion llawn am gyflwyniad Prifysgol Caerdydd i REF 2021 ar brif dudalennau ymchwil canolog y Brifysgol (Link to page)