Ymrysonwyr Caerdydd yn mynd â’u rownd derfynol i’r Goruchaf Lys
16 Mai 2022
Nid oes llawer o fyfyrwyr yn cael y cyfle i ddangos eu sgiliau mewn llys barn go iawn, ond ym mis Mai eleni, gwnaeth myfyrwyr y gyfraith yn eu trydedd flwyddyn, Ken Chiu, Law Jing Yu, Lim Jia Yun Ruth ac Amelia Jefford yn union hynny, mewn cystadleuaeth ymryson yng Ngoruchaf Lys y DU.
Mae ymryson yn elfen hanfodol o hyfforddiant cyfreithiol sy'n gweld myfyrwyr y gyfraith yn cymryd rhan mewn sefyllfaoedd ffug mewn llys lle maent yn mireinio eu sgiliau siarad, perswadio, ymchwilio a dadansoddi.
Mae Goruchaf Lys y DU, sef y llys apêl terfynol ar gyfer achosion sifil ac achosion o bwysigrwydd cyhoeddus neu gyfansoddiadol, yn cynnal rhaglen sy’n cynnig cyfle i gystadlaethau ymryson prifysgolion gael eu rowndiau terfynol wedi’u barnu gan un o Ynadon y Goruchaf Lys.
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnal cystadlaethau ymryson bob blwyddyn sy'n cael eu 'noddi' gan siambrau bargyfreithwyr lleol – Civitas Law. Mae llawer yn y fantol, gyda'r enillwyr yn cael y cyfle i wneud cyfnod prawf byr gyda siambrau. Eleni, gwnaeth Rose Hancock, myfyrwraig trydedd flwyddyn, Swyddog Cystadlaethau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith, gais i gynllun ymryson y Goruchaf Lys ar ran Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, ac yn dilyn cyfweliad ym mis Tachwedd 2021, cawsom ein hysbysu ei bod wedi bod yn llwyddiannus.
Ar 4 Mai 2022, teithiodd grŵp o’r ysgol i Lundain ar gyfer y rownd derfynol. Caniatawyd i ni ddod â gwylwyr, a oedd yn golygu bod nifer o'n myfyrwyr israddedig a BTC, a oedd wedi cynorthwyo yn rowndiau cynharach y gystadleuaeth, hefyd yn gallu mynd gyda’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Aethpwyd â’r grŵp ar daith o amgylch yr adeilad cyn dechrau’r ymryson, ac yna dechreuodd y gystadleuaeth, a feirniadwyd gan yr Arglwydd Lloyd-Jones sydd wedi bod yn Ynad y Goruchaf Lys ers mis Hydref 2017.
Cynrychiolodd Ken Chiu a Law Jing Yu yr Apelydd, a chynrychiolodd Lim Jia Yun Ruth ac Amelia Jefford yr Ymatebydd. Gwnaeth yr Arglwydd Lloyd-Jones ganmol yr holl gystadleuwyr yn uchel, gan ddweud nad ar chwarae bach y mae sefyll o flaen Barnwr Goruchaf Lys a chyflwyno achos!
Pan ofynnwyd iddo ddewis tîm buddugol, a hefyd ymrysonwr gorau (y myfyriwr a fyddai’n cael cyfle i fynd ar gyfnod prawf byr) dewisodd yr Arglwydd Lloyd Jones y tîm Ymatebwyr fel yr enillwyr, ond cafodd anhawster i wahaniaethu rhwng Ruth ac Amelia, gan nodi bod y ddau wedi bod yn drawiadol iawn ac yr un mor deilwng o'r wobr. O ganlyniad, cyhoeddwyd y ddwy yn fuddugol, a oedd yn ganlyniad ardderchog!
Yna cafwyd seremoni cyflwyno tystysgrifau byr a chyfle i sgwrsio gyda'r beirniad. Cyflwynwyd llyfr coffa am y Goruchaf Lys i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol hefyd.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y darlithydd, Kathryn Clague, a oedd gyda’r grŵp, “Roedd y diwrnod yn y Goruchaf Lys yn fendigedig. Cymerodd y Barnwr Lloyd Jones amser i rannu peth o’i ddoethineb mewn perthynas ag eiriolaeth berswadiol, a oedd yn graff iawn, ac roedd yn wych gweld ein myfyrwyr yn perfformio yn y llys gyda chymaint o hyder a gallu. Hoffwn ddiolch i Rose Hancock am wneud y cyfan yn bosibl a darparu profiad mor unigryw i’n myfyrwyr.”