Deall Iechyd Meddwl Mwslimiaid
16 Mai 2022
Mae Mwslimiaid wedi rhannu eu profiadau o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl, a hynny’n rhan o gwrs hyfforddi sy’n archwilio sut y gallai’r rhai sydd yn y ffydd gael eu cefnogi’n well.
Mae’r cwrs hyfforddi ar-lein am ddim, a ddatblygodd Canolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Astudio Islam yn y DU, ar gyfer amrywiaeth eang o ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys athrawon, swyddogion yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol a darparwyr gofal bugeiliol crefyddol, fel imamiaid.
Ym Mhrydain, mae Mwslimiaid yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl nag unigolion sydd yn y ffydd arall. Er hynny, maent yn llai tebygol o ofyn am gymorth ffurfiol i fynd i’r afael â nhw – a phan fyddant yn gwneud hynny, mae’r tebygolrwydd y byddant yn gwella’n is.
Yn ogystal â phobl sydd â phrofiadau go iawn o broblemau iechyd meddwl, mae arbenigwyr ac ymarferwyr blaenllaw yn y maes hefyd wedi cyfrannu at y cwrs, sy'n lansio ar blatfform ar-lein FutureLearn ddydd Llun (16 Mai).
Mae Suhayl Patel, sydd wedi cyfrannu at y cwrs, yn ymarferwr iechyd meddwl yn Ymddiriedolaeth Cwnsela Beacon ac yn defnyddio ei brofiad o ddibyniaeth ar gamblo i helpu pobl eraill sy’n dioddef o broblemau tebyg. Mae'n credu bod llawer o stigma’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl ymhlith Mwslimiaid.
Dywedodd y dyn 38 oed o Oldham, sydd wedi rhannu ei stori â chyfranogwyr y cwrs: “Ces i fy magu mewn cymuned uniongred iawn. Roedd gamblo’n ffordd o ddianc rhagddi. Roeddwn i'n gwybod yn iawn bod gamblo’n anghywir. Byddwn i’n stopio am gyfnodau hir, ond yn ailddechrau yn y pen draw. Doedd fy nheulu i ddim yn gwybod fy mod i’n gamblo, ac yn gyflym iawn, wrth i fy nibyniaeth ar gamblo waethygu, des i’n fwy byrbwyll.
“Ar y naill llaw, roeddwn i am fod yn Fwslim da iawn, ond ar y llaw arall, roedd gen i broblem na wnes i ei chydnabod ar y pryd, mewn gwirionedd. Roeddwn i’n teimlo cymaint o gywilydd.”
Cafodd cyfrannwr arall i'r cwrs ddiagnosis ffurfiol o iselder a gorbryder ar ôl mwy na blwyddyn o geisio mynd i'r afael ag ef ar ei phen ei hun. Cafodd gymorth gan ei meddyg teulu ac Imam, yn ogystal â gofyn am gymorth gan deulu a ffrindiau.
Dywedodd: “Mae cael diagnosis wedi dangos gwir fy sefyllfa i. Cyn hynny, byddwn i’n troi at fy ffydd bob tro roeddwn i’n drist neu’n poeni am rywbeth. Ar ôl cael diagnosis, roeddwn i bron mewn lle tywyllach, gan nad oedd dim byd wedi gweithio yn fy marn i. Roeddwn i’n wir yn teimlo bod rhywbeth yn bod arna’ i, gan nad oeddwn i’n llwyddo i ddelio ag e ar fy mhen fy hun.”
Yn ôl arweinydd y prosiect, Dr Asma Khan yng Nghanolfan y Brifysgol ar gyfer Astudio Islam yn y DU, mae angen gwella dealltwriaeth o sut mae Mwslimiaid yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Dywedodd: “Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Mwslimiaid â phroblemau iechyd meddwl yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau cymorth i fynd i’r afael â nhw a gwella’n dda. Rydyn ni’n gwybod y gall credoau crefyddol ac ysbrydol penodol ddylanwadu ar brofiadau a dealltwriaeth
"Mwslimiaid o broblemau iechyd meddwl. Rydyn ni’n gwybod hefyd bod y stigma sy’n gysylltiedig â’r rhain yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o leiafrifoedd ethnig a chrefyddol.
"Dyna pam rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r bobl sydd wedi sôn am eu profiadau uniongyrchol er budd y rhai sy’n gwneud y cwrs, drwy rannu eu stori fel enghreifftiau o sut mae Mwslimiaid yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn ffyrdd unigryw."
Dywedodd Shaykh Dr Asim Yusuf, Ysgolhaig Islamaidd a Seiciatrydd Ymgynghorol sydd hefyd wedi rhoi mewnbwn ar ddatblygiad y cwrs: “Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio er mwyn galluogi ymarferwyr iechyd meddwl, pobl grefyddol sy'n ymwneud â gofal bugeiliol, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, i gyfoethogi eu dealltwriaeth yn y ffyrdd y mae Mwslimiaid yn profi iechyd a salwch meddwl.
“Y nod, yn y pen draw, yw eu huwchsgilio tuag at hwyluso adferiad mewn modd cyfannol a diwylliannol briodol, gan ddwyn adnoddau cyfoethog seicotherapi modern ac elfennau o ddoethineb crefyddol clasurol, er mwyn cyrraedd y gorau o'r ddau fyd y mae defnyddwyr gwasanaeth o'r fath yn byw ynddynt.
“Rwy'n gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o fentrau tebyg, o ran crefyddau a diwylliannau eraill, ond hefyd o ran datblygu adnoddau iechyd meddwl Mwslimaidd ymhellach. Hoffwn hefyd ddiolch i Brifysgol Caerdydd, y Ganolfan Astudio Islam yn y DU a FutureLearn am eu haelioni a'u cefnogaeth yn ei datblygiad.”
I gofrestru i wneud y cwrs Deall Iechyd Meddwl Mwslimiaid, cliciwch yma.