Cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr
13 Mai 2022
Mae gwasanaeth iechyd meddwl newydd gan y GIG yn cael ei dreialu. Mae ar gyfer pob myfyriwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sy'n astudio yn un o brifysgolion y ddinas.
Bydd Gwasanaeth Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl yn rhoi cymorth i fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sy'n profi anawsterau iechyd meddwl is-argyfwng, neu'r rhai sydd ag anghenion cymhleth hirsefydlog.
Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn - sydd ar gael ar gampysau - drwy gael eu cyfeirio ato gan adran Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, Seiciatreg Cyswllt Oedolion, neu eu meddyg teulu.
Partneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru sydd wedi datblygu’r peilot hwn. Bydd yn mynd i'r afael â 'bwlch' a nodwyd rhwng mandad pob prifysgol i gynnig Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a'r trothwy ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Eilaidd y GIG, pan mae angen atgyfeiriad neu asesiad GIG ar fyfyrwyr.
Bydd cam un y peilot ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn ardal Caerdydd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n darparu gofal iechyd yn yr ardal hon. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sydd wedi darparu’r cyllid cychwynnol tan fis Rhagfyr 2022. Cytunwyd ar gynlluniau i sicrhau cyllid ar gyfer cam dau er mwyn parhau i ddatblygu ac asesu’r tîm tan haf 2023. Os bydd y peilot yn llwyddiannus bydd model ariannu ar y cyd a chytundeb partneriaeth yn cael eu datblygu i gadw’r tîm newydd yn weithredol o fis Medi 2023.
Bydd y peilot hefyd yn edrych ar wella cysylltiadau â’r byrddau iechyd cyfagos Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer myfyrwyr sy’n byw y tu allan i Gaerdydd. Y nod fydd gwella’r gallu i gyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau iechyd meddwl priodol.