Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig
12 Mai 2022

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn eich gwahodd i ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig: diwrnod o weithgareddau byw ar-lein.
Ddydd Gwener 27 Mai, gall disgyblion fwynhau'r digwyddiad yn rhithwir drwy sesiynau rhyngweithiol gyda'n tiwtoriaid.
Byddwn yn cynnal tair set o dair sesiwn ar gyfer cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 lle gall plant ddysgu am darddiad y digwyddiad, dysgu geiriau Mandarin ac ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r ŵyl, darganfod beth mae pobl Tsieineaidd yn ei fwyta a gwneud papur 'zongzi' (twmplenni reis wedi'u lapio)!
Cyfnod Allweddol 1
Cyfnod Allweddol 2
Cyfnod Allweddol 3
Byddwn hefyd yn sicrhau bod y sesiynau wedi'u recordio ar gael ar ôl y digwyddiad. Byddwch yn gallu gwylio'r rhain ar wefan Prifysgol Caerdydd o 6 Mehefin.
Sylwch y byddwn yn defnyddio Gweminarau Zoom ar gyfer y digwyddiad hwn i wneud y mwyaf o ddiogelu a diogelwch.
