Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio 9fed yn y DU am bŵer ymchwil
12 Mai 2022
Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 y Llywodraeth fel un sy'n cynhyrchu ymchwil yr ystyrir ei bod yn cael effaith eithriadol neu sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd.
Mae'r ysgol yn 9fed yn y DU am bŵer ymchwil, gan adlewyrchu ei graddfa a'r cryfder yn ehangder ei hymchwil a'i heffaith.
Mae ymchwil yr ysgol yn canolbwyntio ar gynllunio, llywodraethu a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a mannau gwledig. Mae'n cwmpasu ystod eang o arbenigedd ymchwil, o sefydlu fframweithiau polisi byd-eang ar gyfer ymchwil ac ymyrraeth ar fwyd trefol cynaliadwy, i lunio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ysgol yn mabwysiadu ymagwedd ryngddisgyblaethol sydd wedi’i hymgorffori, yn ogystal ag agenda ymchwil sy’n mynd i’r afael â pholisïau. Ar gyfer REF 2021, bu bron i'r ysgol ddyblu nifer yr ymchwilwyr a gyflwynwyd i'r uned hon o'i gymharu â 2014.
Mae'r REF yn asesu ansawdd ymchwil prifysgolion ym mhob disgyblaeth mewn ffordd gadarn a thrylwyr. I gyd, cymerodd 157 prifysgol yn y DU ran, a chafodd gwaith mwy na 76,000 o staff academaidd ei gyflwyno.
Dywedodd yr Athro Gill Bristow, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Rwy'n falch iawn o ganlyniadau'r ysgol yn y REF diweddaraf a'r sylfaen y mae hyn yn ei darparu ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled pawb yn yr ysgol yn ystod cyfnod o dwf a datblygiad sylweddol.
"Rydym yn arbennig o falch o'r twf cydnabyddedig yn ein pŵer ymchwil yn ein cyflwyniad cyntaf erioed i'r panel Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol. Rydym yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hynny.
"Mae ein cryfder mewn dyfnder hefyd yn cael ei ategu gan gydnabyddiaeth o berthnasedd polisi cryfach ac effaith ein hymchwil ar yr heriau allweddol sy'n wynebu lleoedd. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer ein hymchwil gydweithredol yn y dyfodol ac uchelgeisiau o ran effaith."
Darganfyddwch ragor am ein cyflwyniad i REF 2021 a’n hymchwil.
Rhagor o wybodaeth am effaith ein hymchwil.