Ymchwil ragorol yn yr Ysgol Cerddoriaeth
12 Mai 2022
Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 y Llywodraeth yn ysgol sy’n creu ymchwil o safon ragorol lle bydd ei diwylliant yn ffafriol i greu ymchwil sy’n arwain y byd.
Adlewyrchir cryfder effaith ein hymchwil yn ein sgôr o 3.75. Ystyrir 75% yn eithriadol o ran ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd.
Ac ystyrir bod 90% o'n diwylliant ymchwil yn ffafriol i greu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae’r ysgol yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’r ddisgyblaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy ymchwil ym maes cyfansoddi, perfformio, cerddoleg ac ethnogerddoreg. Adlewyrchir ehangder ein harbenigedd academaidd yn ein cyflwyniad i REF, a chafwyd effaith yn sgîl perfformiad operatig prif ffrwd a thraddodiadau drymio o Giwba sy'n bwysig yn ddiwylliannol. Mae gennym gymuned ymchwil amrywiol a bywiog sy'n llywio dadleuon cyhoeddus ac ysgolheigaidd.
Mae'r REF yn rhoi asesiad cadarn a thrylwyr o safon ymchwil prifysgolion ym mhob disgyblaeth. Cymerodd cyfanswm o 157 o brifysgolion y DU ran, gan gyflwyno mwy na 76,000 o staff academaidd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Rwy’n arbennig o falch bod cryfder eithriadol ein heffaith yn y REF diweddaraf wedi cael ei gydnabod, ar y cyd â nifer o’n hallbynnau ymchwil yr aseswyd eu bod yn arwain y byd. Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r ysgol am ei ymroddiad, ei waith caled a’i ymrwymiad clodwiw i ysgolheictod cerdd, cyfansoddi a pherfformio o’r safon uchaf.
“Rydyn ni’n meithrin cymuned ymchwil sy’n gynhwysol, yn amrywiol ac sy’n gweithio ar y cyd. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn.
Darllenwch ragor am ein cyflwyniad REF 2021 a’n hymchwil.
Rhagor o wybodaeth am effaith ein hymchwil.