Ymchwil o bwys: Ymchwil o’r fainc i erchwyn y gwely a gydnabyddir gan REF21
12 Mai 2022
Heddiw, cadarnhaodd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF21) diweddaraf – asesiad annibynnol o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU – fod 90% o'r ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain y byd yn swyddogol neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae'r ymchwil hon yn cynnwys prosiectau a gynhaliwyd yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd lle mae mwy na 100 o ymchwilwyr yn cefnogi darganfod, datblygu a gwneud y defnydd gorau posibl o feddyginiaethau a therapiwteg i fynd i'r afael â rhai o glefydau mwyaf gwanychol a bygythiol y byd, gan gynnwys canser, clefyd y galon, clefyd Parkinson, diabetes a llawer mwy o gyflyrau iechyd.
Heddiw, cyhoeddodd REF21 – proses o adolygu arbenigol a gynhaliwyd gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU – ei ganlyniadau. Cafodd ymchwil yr Ysgol ei hasesu’n rhan o Uned Asesu 3 REF21 (sy’n cwmpasu proffesiynau perthynol i iechyd, deintyddiaeth, nyrsio a fferylliaeth). Mae'r Uned Asesu hon yn cynnwys màs critigol o ymchwilwyr o bum ysgol ar draws Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae enghreifftiau o ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a gyflwynwyd i'w hadolygu yn cynnwys:
Yn yr Uned Asesu hon, aseswyd bod 91% o allbynnau Prifysgol Caerdydd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol a dyfarnwyd y sgôr uchaf posibl am ein hamgylchedd ymchwil (4.0). Drwy sicrhau sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd gyffredinol o 3.39, cafodd ein hymchwil ryngddisgyblaethol ei rhoi yn y 16eg safle (allan o 90) am ansawdd. Mae hynny, ynghyd â maint yr ymchwil yn yr Uned hon, yn ein rhoi yn y 4ydd safle (allan o 90) am Bŵer Ymchwil (sy’n arwydd o ansawdd a maint cyflwyniad Prifysgol Caerdydd).
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o feithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Gan adlewyrchu hyn, cyflwynodd y brifysgol 100% o'r staff cymwys i'r Uned Asesu hon.
Mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn sicrhau dyfarniadau ymchwil allanol gwerth tua £3 miliwn y flwyddyn drwy bartneriaethau ag ystod amrywiol o gyrff ariannu. Mae natur gymhwysol ac amlddisgyblaethol ymchwil yr Ysgol hefyd yn elwa o gydweithio gwyddonol byd-eang a chydberthnasau strategol â busnesau byd-eang a chyrff yn y sector cyhoeddus sy'n galluogi ymchwilwyr yr Ysgol i weld effaith eu gwaith i gleifion.
Hyd yma, yn ogystal â gwell dealltwriaeth a chynnydd o ran darganfod cyffuriau, datblygu cyffuriau a darparu cyffuriau, mae ymchwil yr Ysgol wedi arwain at newidiadau mewn canllawiau ymarfer a gwelliannau mewn hyfforddiant clinigol. Mae wedi ysgogi trafodaeth a gweithredu polisi gan y llywodraeth a chyrff yn y sector cyhoeddus. Mae hefyd wedi effeithio ar gynllunio gweithlu'r GIG a gweithwyr proffesiynol ac wedi arwain at fodelau newydd o wasanaethu.
Mae'r holl effaith hon yn helpu i newid bywydau cleifion er gwell.
Darllenwch fwy am yr ymchwil arloesol yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd