Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi'i ethol i'r Gymdeithas Frenhinol
12 Mai 2022
Mae’r Athro Jamie Rossjohn, o’r Ysgol Meddygaeth, wedi’i ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) – un o gyrff gwyddonol mwyaf mawreddog y byd – i gydnabod ei gyfraniadau sydd wedi creu trawsnewidiadau i wyddoniaeth.
Y Gymdeithas Frenhinol, a sefydlwyd yn y 1660au, yw'r academi wyddonol hynaf, sydd wedi bodoli’n barhaus, yn y byd. Yn Bennaeth Rhaglen Heintiau ac Imiwnedd y Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Monash ac Athro mewn Imiwnoleg Strwythurol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Athro Rossjohn FRS ymhlith 62 o wyddonwyr eithriadol a anrhydeddwyd â Chymrodoriaethau yn 2022, sy’n ymuno â rhengoedd gwyddonwyr amlycaf y byd. Ymysg Cymrodyr blaenorol y Gymdeithas Frenhinol mae Charles Darwin, Peter Doherty, Dorothy Hodgkin a thros 280 o enillwyr Gwobr Nobel.
Mae gwell dealltwriaeth o imiwnedd wedi arwain at ddatblygiadau cyflym o ran creu brechlynnau ac imiwnotherapïau canser newydd. Gan ddatblygu darganfyddiadau arloesol a pharhaus sy'n hybu ein dealltwriaeth foleciwlaidd o'r system imiwnedd, mae'r Athro Rossjohn wedi gwneud cyfraniad arloesol i wybodaeth a dealltwriaeth fyd-eang, ac wedi gwella'n fawr enw da a gallu rhyngwladol Awstralia a Chymru o ran darganfyddiadau gwyddonol.
Mae'r Athro Rossjohn FRS yn adnabyddus am ei gyfraniadau at ddeall y seiliau moleciwlaidd sy'n sail i imiwnedd; defnyddio bioleg adeileddol i egluro hunan-gysylltiad derbynnydd cyn-gelloedd-T (TCR) yn natblygiad celloedd T, a sut mae'r TCR yn cydnabod, yn benodol, moleciwlau polymorffig Antigen Lewcocyt Dynol (HLA) yng nghyd-destun imiwnedd firaol ac adweithedd celloedd-T afreolaidd. Mae wedi datgelu ffurfiau mecanweithiau, polymorffaeth HLA sy’n effeithio ar orsensitifrwydd i gyffuriau a bwyd, yn ogystal ag adnabod derbynyddion celloedd Lladd Naturiol. Mae wedi arloesi ein dealltwriaeth foleciwlaidd o imiwnedd seiliedig ar lipidau gan gelloedd T, gan ddatgelu fod gwahaniaeth sylfaenol rhyngddo ag imiwnedd addasol peptid-gyfryngol. Yn ddiweddar, mae ei dîm wedi cyflwyno sail strwythurol ar gyfer sut mae metabolion fitamin B yn gallu cael eu cyflwyno a’u hadnabod gan y system imiwnedd, gan ddatgelu dosbarth newydd o antigenau.
“Yn y pen draw efallai y bydd y darganfyddiadau sylfaenol hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer imiwnotherapïau arloesol yn y dyfodol i drin afiechyd,” meddai’r Athro Rossjohn.
Dywedodd Syr Adrian Smith, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol: “Mae’n anrhydedd croesawu cymaint o ymchwilwyr rhagorol o bob rhan o’r byd i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol. Trwy eu gyrfaoedd hyd yn hyn, mae'r ymchwilwyr dan sylw wedi helpu i wella ein dealltwriaeth o glefydau dynol, colli bioamrywiaeth a tharddiad y bydysawd. Rwyf hefyd yn falch o weld cymaint o Gymrodyr newydd yn gweithio mewn meysydd sy’n debygol o gael effaith drawsnewidiol ar ein cymdeithas dros y ganrif hon, o ddeunyddiau a thechnolegau ynni newydd i fioleg synthetig a deallusrwydd artiffisial. Edrychaf ymlaen at weld pa bethau gwych y byddant yn eu cyflawni yn y blynyddoedd i ddod.”
Bydd yr Athro Rossjohn yn cymryd rhan mewn seremoni yn Llundain ym mis Gorffennaf lle bydd yn rhoi cyflwyniad ynghylch ei waith, yn llofnodi llyfr y Siarter ac yn cael ei dderbyn yn Gymrawd, yn ffurfiol.