Ymchwil sy’n cael effaith
12 Mai 2022
Dathlu pŵer ac effaith ymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Mae'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi dod ymhlith y pump gorau ar gyfer effaith a grym ymchwil yn yr asesiad ymchwil diweddaraf ar draws y DU, a gynhaliwyd drwy'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Mae cyflawni GPA o 3.51, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a oedd yn cynnwys ymchwil gan Athroniaeth, wedi gwella ar gyflwyniad 2014 a bron dyblu cyfwerth ag amser llawn (neu staff cyfwerth ag amser llawn).
Mae sgôr o 3.90 yn rhoi ymchwil yr Ysgol yn y 4ydd safle yn y DU am ei heffaith ar gymunedau ehangach ac yn 5ed am bŵer ymchwil, sy'n ddangosydd o raddfa ac ansawdd ein cyflwyniad.
Mae canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn rhoi darlun cenedlaethol o ymchwil o'r radd flaenaf a gynhyrchir ar draws ehangder gweithgarwch prifysgolion. Elfen hanfodol yw dangos y manteision y mae ymchwil yn eu cyflawni y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys sut mae'n dod â newidiadau pendant i agweddau ar gymdeithas a bywyd, a'r gwerth cyhoeddus y mae'n ei ddarparu.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Martin Willis:
"Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol yn cwmpasu arbenigedd gan grwpiau megis Science Humanities ac Image Works ac am y tro cyntaf mae'n cynnwys ymchwil ardderchog athronwyr yr Ysgol. Rydym wedi trawsnewid dealltwriaeth o ddarluniau hanesyddol, newid syniadaeth y cyhoedd am rywedd a milwriaeth, cynyddu defnydd dydd i ddydd o'r Gymraeg, gwella strategaethau cyfathrebu mewn gofal dementia, ac ehangu cynhwysiant cymdeithasol mewn arferion diwylliannol a sefydliadol."
Mae'r Brifysgol yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol ac wedi cyflwyno 100% o staff cymwys yn yr Uned Asesu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.