Pŵer ymchwil
12 Mai 2022
Dathlu ymchwil ar draws yr ysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi gosod y pump uchaf ar gyfer effaith ymchwil mewn Archaeoleg ac ymhlith yr ugain uchaf am Hanes yn yr asesiad diweddaraf o ragoriaeth ymchwil ledled y DU, a gynhaliwyd drwy'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
Sgoriodd Archaeoleg yng Nghaerdydd GPA cyffredinol o 3.40, sef 9fed yn y DU. Yma, mae Caerdydd hefyd yn y 5ed safle am effaith a 6ed ar gyfer cynhyrchion ymchwil. Ystyrir bod dros 90% o allbwn ymchwil Caerdydd yn yr uned asesu Archaeoleg yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
Mae Hanes yn 17eg yn y DU am bŵer ymchwil - dangosydd o raddfa ac ansawdd y cyflwyniad, gyda 90% o'r amgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn rhoi darlun cenedlaethol o ymchwil o'r radd flaenaf a gynhyrchir ar draws ehangder gweithgarwch prifysgolion. Elfen hanfodol yw dangos y manteision y mae ymchwil yn eu cyflawni y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys sut mae'n dod â newidiadau pendant i agweddau ar gymdeithas a bywyd, a'r gwerth cyhoeddus y mae'n ei ddarparu.
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro James Hegarty:
O effaith gymunedol, megis cynyddu cyfranogiad diwylliannol a gwerth cymunedol drwy Brosiect CAER, i effaith ehangach drwy hyrwyddo dealltwriaeth o drawsblannu organau ymhlith Mwslimiaid Prydain, adlewyrchir ein hunaniaeth ryngddisgyblaethol drwy'r cyflwyniad cyfan ar gyfer Hanes.
“Ym maes Archaeoleg, mae ein hymchwil ddylanwadol yn arbed treftadaeth fetel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn creu newid mewn arferion treftadaeth, a ysgogir gan ein gwaith arloesol yn gwrthdroi dealltwriaeth o fwyd, ffermio a gwledda cynhanesyddol.
Gydag un o'r adrannau archaeoleg hynaf yn y DU ac yn ffres ar ôl dathlu ein canmlwyddiant yn 2020, mae gennym enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn gwyddoniaeth archeolegol ac ymchwil maes, cadwraeth, arferion treftadaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd.”
Ers REF 2014, yr uned asesu Hanes yw'r 11eg fwyaf yn y panel. Mae’r ysgol wedi ehangu ein harbenigedd yn ddaearyddol ac yn fethodolegol drwy gynnwys ymchwil mewn crefydd a diwinyddiaeth.
Mae'r Brifysgol yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol ac wedi cyflwyno 100% o staff cymwys yn Unedau Asesiadau Archaeoleg a Hanes REF2021 .