Ysgol y Biowyddorau yn ennill canlyniadau rhagorol yn FfRhY 2021
12 Mai 2022
O fewn y DU, fe’n dynodwyd y 7fed am effaith ymchwil a’r 8fed am bŵer ymchwil yn y Gwyddorau Biolegol
Yng nghanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY - REF) 2021 a gyhoeddwyd heddiw, cadarnhawyd fod 88% o weithgarwch ymchwil yn y Gwyddorau Biolegol yng Nghaerdydd o safon a gydnabyddir naill ai gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Daw’r dyfarniad hwn yn sgil yr asesiad annibynnol diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU.
Amlyga’r 8fed safle yn y DU o ran pŵer ymchwil gryfder ac ansawdd ein cyflwyniad FfRhY.
Adlewyrcha’r ffaith bod ein heffaith ymchwil wedi ei gydnabod yn 7fed yn y DU y rôl hanfodol y mae ein hymchwilwyr yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â heriau mwyaf y byd. Mae enghreifftiau o hyn yn amredeg o amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl i reoli ecosystemau dŵr croyw iach a datblygu a gwella dulliau canfod, monitro a thrin HIV, ffliw a SARS-CoV-2.
Nod Ysgol y Biowyddorau yw meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Yn dystiolaeth o hyn, cyflwynwyd 100% o'n staff cymwys i'w hasesu.
Dysgwch fwy am y gwahaniaeth y mae ein hymchwil yn ei wneud.