Ysgol yn dathlu perfformiad ymchwil cryf yn REF 2021
12 Mai 2022
Fe aseswyd bod 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Gwyddorau Daear a’r Amgylchedd ar gyfer REF 2021 gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesu ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei gwneud yn sector addysg uwch y DU, gan roi sicrwydd i ni o’r safonau yr ydym yn anelu tuag atynt.
Mae canlyniadau REF 2021 yn dangos bod 70% o’n hallbynnau’n cael eu hystyried yn rhai sydd gyda’r gorau yn y byd, a’r mae’r gweddill yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn ein rhoi yn yr ail safle yn y DU.
At ei gilydd, rydym hefyd wedi gweld gwelliant o bwys o ran yr ymchwil a wneir yn yr ysgol gan fod ein Cyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) wedi codi o 3.07 yn REF 2014, i 3.57 yn REF 2021. Bu cynnydd hefyd o ran ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd (4*) ac ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Mae hyn yn dangos sut mae ein gwaith yn helpu i lunio’r dirwedd ymchwil, gan fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ym maes Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.
Meddai’r Athro Ian Hall: “Rwy’n ddiolchgar i’r holl staff, ar draws cymuned yr ysgol a’n canolfannau ymchwil cysylltiedig, am y gwaith caled sydd wedi gwneud ein canlyniadau REF yn bosibl.”
“Ers REF 2014, rydym wedi ceisio cryfhau rhagoriaeth ein hymchwil ac ehangder ein heffaith tra'n caniatáu i staff ehangu eu gorwelion eu hunain mewn cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae cyflwyno gwaith 100% o'n staff cymwys i Uned Asesu Systemau’r Ddaear a Gwyddorau’r Amgylchedd, yn adlewyrchu hynny.
“Rwy’n arbennig o falch o’r gwelliannau rydym wedi’u gwneud a’n sgôr ganrannol uchaf am allbynnau ymchwil. Mae cael gwybod bod 70% o’n hallbynnau ymchwil gyda’r gorau yn y byd yn ganlyniad gwych sy’n dangos ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir gan ein hysgol.”
Mae ein hymchwilwyr ar flaen y gad o ran dod o hyd i atebion yn y byd go iawn i rai o'r materion mwyaf dybryd ym maes Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Mae gan ein hymchwil amlddisgyblaethol rôl hanfodol wrth leihau effaith ar yr amgylchedd a chynyddu arferion cynaliadwy mewn ystod eang o feysydd.
I gael enghreifftiau o'r ymchwil ddiweddaraf a gynhelir yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, darllenwch ein hastudiaethau achos o effaith ac ewch i'n gwefan. Mae’r holl wybodaeth am gyflwyniad Prifysgol Caerdydd ar gyfer REF 2021 ar gael ar brif dudalennau ymchwil y Brifysgol.