Cydnabod Uwch Ddarlithydd Nyrsio am ymrwymo i wella bywydau mewn cymunedau lleol
11 Mai 2022
![Dr Sarah Fry receiving her award at the 2022 Celebrating Excellence Awards.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2624456/13.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Dr Sarah Fry, Uwch Ddarlithydd Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod am ei gwaith rhagorol gyda chymunedau BAME lleol yng Nghaerdydd.
Yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2022 y Brifysgol, derbyniodd Dr Fry wobr 'Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant' am ei gwaith gyda chymunedau BAME lleol yng Nghaerdydd i ddatblygu prosiectau a arweinir gan y gymuned sy’n archwilio rôl amrywiaeth ddiwylliannol i ddeall risgiau iechyd.
Mae Dr Fry yn defnyddio ei chefndir ym maes nyrsio i ddatblygu ffordd academaidd o ystyried sut mae pobl yn ffurfio eu gwybodaeth am iechyd a salwch, gan gynnwys sut y gellir gwneud academyddion ac ymarferwyr gofal iechyd yn haws mynd atynt i gymunedau BAME.
A hithau’n Uwch Ddarlithydd Nyrsio Oedolion, mae Dry Fry yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr clinigol sut y gellir defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol i wella gwasanaethau gofal iechyd a gofal cleifion. Mae ei harbenigedd ymchwil yn cynnwys deall y wybodaeth am iechyd sy'n deillio o gymdeithas, yn enwedig sut mae gwybodaeth mewn cymunedau sydd mewn perygl mawr o wynebu anghydraddoldebau iechyd yn datblygu.
O ganlyniad i'w gwaith ysbrydoledig, dyfarnwyd cyllid Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser iddi’n ddiweddar gan Seedcorn er mwyn ei galluogi i greu Grŵp Ymchwil Cymunedol gyda dynion Affricanaidd ac Affricanaidd Caribïaidd. Bydd y grŵp hwn yn gweithio gyda'i gilydd i ddeall sut mae dynion yn y gymuned BAME yn gweld ac yn dehongli llenyddiaeth sy’n ymwneud â chanser y prostad. Dyma oedd pwnc PhD Dry Fry, ar sail ei phrofiad o weithio mewn clinigau canser y prostad, lle nad yw dynion du’n cael eu cynrychioli ddigon er gwaethaf eu risg uchel o ddatblygu'r canser hwn.