Carreg filltir Cyflog Byw Gwirioneddol wrth i 10,000 o gyflogwyr gael eu hachredu
11 Mai 2022
Mae mwy na 10,000 o gyflogwyr bellach wedi cofrestru i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol, yn ôl ffigurau gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd y Sefydliad Cyflog Byw, sy'n gosod y cyfraddau gwirfoddol, fod yr ymchwil yn dangos bod un o bob 13 o bobl bellach yn gweithio i gyflogwr cyflog byw.
Mae cyflogwyr Cyflog Byw yn ymrwymo i dalu'r holl staff, gan gynnwys gweithwyr dan gontract, £11.05 yr awr yn Llundain a £9.90 y tu allan i'r brifddinas, o'i gymharu â'r isafswm cyflog cenedlaethol, sef £9.50.
Dyma a ddywedodd Dr David Nash, o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n rhan o dîm sydd wedi treulio bron i ddegawd yn ymchwilio i effaith y Cyflog Byw: “Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn tanlinellu arwyddocâd y Cyflog Byw go iawn yn un o nodweddion y farchnad lafur yn y DU. Peth arbennig o drawiadol yw gweld bod yr achrediad wedi parhau i dyfu'n gryf yn wyneb heriau economaidd Brexit a'r pandemig. Edrychwn ymlaen at barhau â'n hymchwil wrth i'r ymgyrch dyfu a datblygu yn y dyfodol.”
Dyma a ddywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw: “Mae cyrraedd 10,000 o Gyflogwyr Cyflog Byw yn garreg filltir hanesyddol i'r mudiad Cyflog Byw.
“Ers dechrau'r ymgyrch 20 mlynedd yn ôl, mae achrediad Cyflog Byw wedi mynd yn feincnod o fusnes cyfrifol yn y DU, gan lunio'r drafodaeth ar gyflogau isel a newid bywydau cannoedd o filoedd o bobl ledled y wlad drwy gynnig cyflog sy'n rhoi urddas i bobl.
“Wrth i chwyddiant gynyddu hyd lefelau newydd, mae'r mudiad Cyflog Byw yn bwysicach nag erioed. Rydyn ni’n wynebu'r wasgfa incwm waethaf yn ein hanes ac ni fydd neb yn ei theimlo'n erwinach na’r pum miliwn bron iawn o bobl sydd â swyddi ansicr ar gyflog isel, ac sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi ar gyllidebau tynn.
“Mae'n hanfodol bod cyflogwyr sy'n gallu ei fforddio yn amddiffyn y rheiny a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf oherwydd prisiau sy’n codi, a hynny drwy dalu cyflog yn seiliedig ar gostau byw.”
Dyma a ddywedodd Craig Hassall, prif weithredwr Neuadd Frenhinol Albert, a achredwyd yn ddiweddar gan y sefydliad: “Er ein bod wedi bod yn talu’r hyn sy’n gyfwerth â Chyflog Byw Llundain i'n staff ein hunain ers peth amser, mae cael ein cymeradwyo'n swyddogol yn golygu y bydd ein holl weithwyr a'r rheiny sy'n gweithio gyda ni drwy gontractwyr bellach yn cael iawndal priodol a theg am eu hymdrechion.
“Mae llawer o gyflogwyr yn dweud mai eu staff yw eu hased mwyaf, ac yn achos y Neuadd mae hyn yn arbennig o wir.”