Canolfan Arloesedd Seiber dan arweiniad Caerdydd, i dderbyn £9.5m
10 Mai 2022
Mae cynnig i sefydlu Canolfan Arloesedd Seiber wedi denu cyllid gan Lywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Disgwylir y bydd y buddsoddiad ar y cyd o £6m, mewn Canolfan Arloesedd Seiber (CIH) dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn sbarduno trawsnewid a thwf clwstwr seiberddiogelwch yn Ne Cymru.
Bydd y consortiwm sy’n cael ei arwain gan Gaerdydd yn derbyn cyllid i ddatblygu'r bartneriaeth gyda chydweithwyr gan gynnwys Airbus, Alacrity Cyber , CGI , Thales NDEC , Tramshed Tech , a Phrifysgol De Cymru.
Gyda chefnogaeth gychwynnol o £5.68m dros ddwy flynedd - cyllid y mae Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cytuno arno, mae CIH yn disgwyl denu cyfanswm o £15 miliwn dros bum mlynedd.
Mae CIH yn disgwyl hyfforddi dros 1,000 o bobl seiber-fedrus a chreu catalydd cydgysylltiedig ar gyfer cynhyrchion newydd, busnesau twf uchel, a thalent, yn y rhanbarth.
Wedi'i ddatblygu o dan gyfarwyddiaeth Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, nod CIH yw rhoi hwb i nifer y busnesau seiberddiogelwch sydd yn Ne Ddwyrain Cymru, a gwella sgiliau seiberddiogelwch er mwyn ehangu a sicrhau rhagor o amrywiaeth o ran y gronfa dalent seiberddiogelwch.
Mae gan yr Athro Burnap hanes o ddatblygu ymchwil seiberddiogelwch o'r radd flaenaf ac o drosi’r ymchwil honno yn gynhyrchion masnachol. Yn 2018, lleolodd Airbus ei unig Ganolfan Ragoriaeth fyd-eang mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch, ym Mhrifysgol Caerdydd; adlewyrchiad o arweinyddiaeth ac ethos yr Athro Burnap a'r tîm ehangach yng Nghanolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Caerdydd.
Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyd-ariannu cenhadaeth CIH i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiber mwyaf blaenllaw'r DU erbyn 2030. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw seiber-arloesi wrth gefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth, a chynnig data a dealltwriaeth ddofn ar yr un pryd, i helpu i sicrhau bod y rhanbarth yn datblygu a thyfu o hyd.”
Erbyn 2030, nod CIH yw creu o leiaf 27 o fusnesau seiberddiogelwch newydd llwyddiannus, ysgogi £24m mewn ecwiti preifat o fuddsoddiad cychwynnol y Ganolfan ac uwchsgilio 1,750 o unigolion sydd ag arbenigedd seiber.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i chwarae rhan allweddol mewn clwstwr sy'n cyd-fynd â'n strategaeth arloesedd, gan ysgogi partneriaethau masnachol a sector cyhoeddus hirsefydlog i ddatblygu heriau a arweinir gan y farchnad, cyflwyno eiddo deallusol, hyrwyddo cynhyrchion seiber newydd a chwmnïau sy’n tyfu’n gyflym, a datblygu cronfa dalent sy'n bwydo'n uniongyrchol i'r clwstwr.”
Bydd CIH yn dod â heriau seiberddiogelwch sy'n cael eu gyrru gan y farchnad ynghyd (drwy gymorth gan gyrff delfrydol megis Airbus, Thales a CGI, a'r rhagoriaeth ymchwil a sgiliau sydd yng Nghanolfan Ymchwil Seiber Prifysgol Caerdydd a gydnabyddir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Diogelwch Seiber (NCSC), ynghyd â Phrifysgol De Cymru.
Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu'r fenter arloesol newydd hon sy'n hanfodol i dwf y sector seiberddiogelwch yn y rhanbarth ac a fydd yn creu mantais gystadleuol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn erbyn rhanbarthau eraill y DU. Mae Caerdydd a PDC yn cael eu cydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (rhan o GCHQ) yn Ganolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn ymchwil ac addysg. Mae eu gwaith yn sail i ymchwil arloesol sydd wedi rhoi dechrau i gwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig eu maint, sydd wedi’u datblygu i fod yn gwmnïau mwy eu maint. Mae hyn yn creu cadwyn gyflenwi gref a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cael ei chydnabod a'i gwerthfawrogi gan ei busnesau a'i phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus - mae ganddynt hwythau ran sylweddol yn nyfodol y sector hwn. Mae hyn oll yn ein gwneud yn ecosystem seiberddiogelwch sy’n genedlaethol ragorol.”
Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber NCSC: “Mae'r Ganolfan Arloesedd Seiber (CIH) yn ychwanegiad i'w groesawu at ecosystem seiberddiogelwch De Cymru sydd eisoes yn drawiadol; mae’n dod â manteision nid yn unig i'r ardal leol ond i'r DU gyfan. Mae'r NCSC yn edrych ymlaen at gefnogi'r CIH ar ei thaith yn sbarduno trawsnewidiad a thwf seiber-arloesi.”
Ymhen amser, bydd y Ganolfan yn datblygu i fod yn sefydliad cynaliadwy, ar ei liwt ei hun. Bydd y gwaith o gyflawni’r prosiect yn cael ei wasgaru'n ddaearyddol, gan ddod â manteision economaidd a chymdeithasol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
I gael gwybod rhagor am y Ganolfan a'i gwaith, cysylltwch â Chyfarwyddwr CIH, yr Athro Pete Burnap (burnapp@caerdydd.ac.uk)