Papur newydd ar broffesiynoldeb yn y practis deintyddol
9 Mai 2022
Darllenwch ein papur mynediad agored diweddaraf ar Broffesiynoldeb yn y practis deintyddol. Gweithiodd Dorottya Cserző, Alison Bullock, a Sophie Bartlett gyda Jonathan Cowpe o'r Ysgol Deintyddiaeth i ddadansoddi'r data a gasglwyd ar gyfer y prosiect Proffesiynoldeb mewn deintyddiaeth a pharodrwydd ar gyfer ymarfer a gomisiynwyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae’r papur yn cymharu safbwyntiau ar broffesiynoldeb gan aelodau o'r cyhoedd, deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol. Hoffem ni ddiolch i Alan Gilmour, Ilona Johnson, a Rhiannon Jones am hwyluso'r grwpiau ffocws.
Mae'r papur yn archwilio safbwyntiau ar broffesiynoldeb yn y gweithle practis deintyddol drwy ddadansoddiad thematig o ddata gan wyth grŵp ffocws. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda 19 o ddeintyddion, 13 o weithwyr gofal deintyddol proffesiynol ac 19 aelod o'r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Y pedair thema amlycaf yn nata’r grŵp ffocws oedd: cyfathrebu, cost triniaeth, rôl y tîm deintyddol a chanlyniadau pryderon proffesiynoldeb. Cytunodd y cyfranogwyr fod y rhain yn faterion proffesiynoldeb sylfaenol, er bod rhywfaint o wahaniaeth barn ynghylch mynd i'r afael â nhw. Roedd anghytundeb ynghylch cyfrifoldebau gwahanol aelodau o'r tîm deintyddol wrth gynnal proffesiynoldeb.
Daw'r awduron i'r casgliad y dylai hyfforddiant sgiliau cyfathrebu fod yn rhan ganolog o'r proffesiynoldeb ar bob lefel o hyfforddiant. Gallai addysg am weithio mewn tîm feithrin ymagwedd fwy cydweithredol tuag at broffesiynoldeb ar draws y tîm deintyddol a chefnogi gofal iechyd geneuol da sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae angen cymorth ac arweiniad i helpu gweithwyr proffesiynol i fyfyrio a dysgu oddi wrth gamgymeriadau.
Darllenwch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yma.